Llysgenhadon

Manteision bod yn lysgennad

  • Ennill arian ar gyfradd o £9.50* yr awr mewn rôl sy’n hyblyg o amgylch dy astudiaethau academaidd
  • Ennill profiad gwaith gwerthfawr
  • Dewis y math o waith yr wyt am ei wneud a phryd
  • Datblygu amryw o sgiliau defnyddiol – siarad cyhoeddus, arweinyddiaeth, trefnu digwyddiadau a gweithio mewn tîm
  • Cael mewnwelediad defnyddiol i fyd Addysg Uwch
  • Rhwydweithio a chael hwyl!

*cyfradd tâl yn gywir adeg cyhoeddi – Mehefin 2021

Beth mae llysgennad yn ei wneud?

Fel llysgennad, fe fyddi di’n chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo ymwelwyr gyda phob agwedd ar eu hymweliad i’r Brifysgol drwy gynnig cefnogaeth, anogaeth a chyngor.

Ar y campws:

  • Cynorthwyo mewn Diwrnodau Agored, Diwrnod Ymweld ac unrhyw weithgareddau/digwyddiadau eraill sy’n digwydd ar y campws
  • Arwain Teithiau Campws
  • Cwrdd a chyfarth ymwelwyr
  • Cynrychioli mewn ysgolion, colegau a ffeiriau Addysg Uwch

 Ar-lein:

  • Diwrnodau Agored Ar-lein / Digwyddiadau Ymweld i Ymgeiswyr
  • Weminarau
  • Student Room
  • Sgwrs Fyw – cynnig gwybodaeth a chyngor am fywyd myfyriwr ac Aberystwyth

Sut i wneud cais?

Os hoffet wneud cais i weithio fel llysgennad, fydd rhaid i ti gofrestru ar GwaithAber a chwrdd â’r meini prawf Hawl i Weithio. Mwy o wybodaeth ar gael ar wefan GwaithAber.

Oherwydd sefyllfa barhaus Coronafeirws, mae cynllun GwaithAber ar gau ar hyn o bryd i fyfyrwyr newydd. Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson a gellir dod o hyd i unrhyw ddiweddariadau ar y wefan.

Fodd bynnag, os wyt ti’n fyfyriwr yn dy ail neu drydedd flwyddyn neu’n fyfyriwr uwchraddedig ac wedi cofrestru ar GwaithAber, gallu wneud cais i weithio fel llysgennad.

Mae croeso i ti wneud cais i weithio gyda’r tîm Marchnata a Denu Myfyrwyr fel llysgennad canolog neu gyda dy adran academaidd fel llysgennad adrannol.

Proffil llysgenhadon cyfredol

Enw: Elen Haf Roach                                                                       

Cwrs: Cymraeg Proffesiynol

Blwyddyn: 3

Pam wnes i wneud cais i fod yn Llysgennad?
Dwi’n cofio ymweld ag Aberystwyth am y tro cyntaf ar Ddiwrnod Agored, a theimlo’n nerfus ac yn ansicr o beth i'w ddisgwyl. Pan gyrhaeddais y campws gyda fy rhieni, cawsom ein cyfarch gan lysgennad cyfeillgar a phrofais y teimlad cartrefol a chyfforddus sy’n unigryw i Aber, yn syth. Sylweddolais ar y pwysigrwydd o allu gofyn i fyfyriwr presennol am ei barn ynglŷn ag astudio yn Aber ac roeddwn yn awyddus i ddarparu profiad tebyg i ddarpar fyfyrwyr presennol. Yn yr un modd, rwyf wedi mwynhau fy amser yn Aber ac roeddwn am rannu fy angerdd ag eraill ac ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gan ddarpar fyfyrwyr am astudio yma.

Beth ydw i'n ei fwynhau fwyaf am fod yn Llysgennad?
Mae bod yn Llysgennad yn cynnig y cyfle i mi allu rhoi rhywbeth yn ôl i'r Brifysgol a rhannu fy mhrofiadau gydag eraill. Rwy’n mwynhau tywys darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd o gwmpas y campws, ac mae gweld eu hymateb i'r hyn a gynigiwn a'r cyfleusterau sydd ar gael i bob myfyriwr yn wych. Does dim teimlad gwell na gweld rhywun y gwnaethoch chi fynd ar daith, yn cerdded o gwmpas y campws a'r dref fel myfyriwr!

 

 

Enw: Tom Mumford                                                                             

Cwrs: Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant

Blwyddyn: 3

Pam wnes i gais i fod yn Llysgennad?
Roeddwn i eisiau sicrhau bod darpar-fyfyrwyr yn cael mewnwelediad cadarnhaol i’w dyfodol. Rwy’n credu bod profiadau myfyrwyr cyfredol yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniad ar ba brifysgol i’w ddewis.

Beth ydw i'n ei fwynhau fwyaf am fod yn Llysgennad?
Sgwrsio a dysgu pobl am Brifysgol Aberystwyth. Mae clywed pam fod myfyrwyr wedi penderfynu ymgeisio i’r brifysgol yn ddiddorol iawn. Rwyf hefyd yn dwlu gweld pa mor hapus mae pobol ar ôl ymweld ag Aberystwyth.

 

 

Enw: Darya Koskeroglu                                                                     

Cwrs: Roboteg a Pheirianneg Systemau Mewnosodedig gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant

Blwyddyn: Blwyddyn mewn Diwydiant

Pam wnes i gais i fod yn Llysgennad?
Fe wnes i ymgeisio i fod yn lysgennad oherwydd fy mod yn awyddus i fod yn rhan o’r brifysgol, cwrdd â phobl newydd a gwella fy CV. Dwi’n caru Aberystwyth a gobeithio fy mod yn trosglwyddo’r cyngor a’r wybodaeth a fy helpodd drwy’r broses brifysgol. Dwi’n fyfyriwr rhyngwladol ac ni fedrais fynychu Diwrnod Agored ar y campws, felly dwi’n angerddol i sicrhau bod darpar-fyfyrwyr yn cael darlun cyflawn o Brifysgol Aberystwyth!

Beth yw'r peth gorau am fod yn lysgennad?
Mae arwain Teithiau Campws wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau siarad cyhoeddus. Dwi bellach yn nabod pob cornel o’r campws ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau amrywiol megis os oes angen cymorth academaidd neu ariannol, cyngor gyrfa a CV neu beth i’w wneud os fydd y peiriant golchi dillad wedi torri yn y llety. Mae cael fy nhalu am y profiad yn ogystal â chael llawer o hwyl, yn dod â boddhad mawr i mi.   

 

 

 

Enw: Assanatou Sy                                                                      

Cwrs: Strategaeth, Cudd-Wybodaeth a Diogelwch

Blwyddyn: 2

Pam wnes i gais i fod yn Llysgennad?
Rwyf wastad wedi bod yn rhan o’r amgylch academaidd yn fy adran, felly gwnes gais i fod yn lysgennad er mwyn gallu cymryd rhan yng ngweithgareddau ehangach y Brifysgol. Roeddwn hefyd yn awyddus i weithio mewn amgylchedd oedd yn ddibynnol ar gyfnewid gyda phobl a datblygu fy sgiliau cyfathrebu. Roeddwn i’n gwybod hefyd y byddai hyn yn ffordd wych o ddod i adnabod y brifysgol, felly gwnes gais yn fy mlwyddyn cyntaf ac roeddwn yn awyddus i gael mwy o brofiad gwaith gyda’r hyblygrwydd o amgylch fy amserlen darlithoedd. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn ymuno â’r tîm fel llysgennad, yn benodol ar gyfer darpar fyfyrwyr rhyngwladol ar ôl sgwrsio efo llysgenhadon cyfredol. Fel myfyriwr rhyngwladol gallaf uniaethu gyda’r myfyrwyr hynny sy’n dewis prifysgol oddi cartref, ac roeddwn yn benderfynol fy mod am helpu eraill gyda’r broses wrth wneud penderfyniadau pwysig.

Beth ydw i'n ei fwynhau fwyaf am fod yn Llysgennad?
Rwy’n mwynhau gymaint o bethau am fod yn lysgennad, mae wir yn brofiad anhygoel! Rwy’n cael cyfarfod â darpar fyfyrwyr o ar draws y byd yn ogystal â chael cyfarfod â llysgenhadon arall o gefndiroedd diwylliannol ac academaidd gwahanol. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau drwy ymgymryd â gweithgareddau a dyletswyddau gwahanol. Mae amrywiaeth o ddyletswyddau gyda’r rôl, felly nid yw byth yn teimlo’n undonog sy’n rywbeth rwyf yn ei werthfawrogi’n fawr. Rwyf wedi cymryd rhan mewn Diwrnodau Agored ac Ymweld, cynorthwyo gyda digwyddiadau penodol o amgylch y Coronafeirws a fy hoff un hyd yn hyn yw’r Teithiau Campws.

Gwybodaeth i Lysgenhadon Cyfredol

Os wyt ti'n lysgenad cyfredol ac wedi cofrestru ar GwaithAber, dilyna'r ddolen isod. 

Gwybodaeth bellach ar gyfer llysgenhadon cyfredol

Cysylltu

Os oes gennyt unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â bod yn lysgennad neu am y cynllun, cysyllta gyda digwyddiadau@aber.ac.uk.

Os oes gennyt ddiddordeb mewn bod yn lysgennad adrannol, cysyllta gyda cydlynydd llysgenhadon dy adran i gael mwy o wybodaeth.