Bod yn Llysgennad
Mae bod yn Llysgennad yn rôl nodedig a gwobrwyol i unrhyw fyfyriwr. Bydd yn rhoi cyfle i chi gynrychioli’r Brifysgol mewn nifer o ddigwyddiadau, yn ogystal â rhoi cyfle i chi ennill arian!Bydd bod yn Llysgennad yn ehangu eich CV, yn rhoi profiad gwaith defnyddiol i chi ac yn eich galluogi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau.
Rydym bob amser yn chwilio am fyfyrwyr cynorthwyol a brwdfrydig i gymryd rhan yn ein gweithgareddau. Mae nifer o gyfleoedd gwahanol i weithio fel Llysgennad ac os hoffech, gallwch wneud cais am bob swyddogaeth drwy’r tudalennau canlynol.
Dyma’r swyddogaethau gwahanol i Lysgenhadon:
Byddwn yn darparu hyfforddiant llawn ichi ac yn fwy na bodlon i roi geirda proffesiynol y gallwch ei ddefnyddio yn y byd gwaith.