Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (UMAber) yw’r ‘Sefydliad Myfyrwyr’ a gydnabyddir yn y Brifysgol.

Nod UMAber yw sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl yn y Brifysgol. Fe’i arweinir gan fyfyrwyr er budd myfyrwyr, ac mae’n sefydliad cwbl ar wahân i’r Brifysgol.

Aelodaeth

Mae pob myfyriwr sy’n cofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn aelod o UMAber yn ddiofyn onibai eu bod yn dewis peidio â bod.

Mae bod yn aelod o UMAber yn rhoi’r hawliau isod ichi:

  • Pleidlais yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr;
  • Pleidlais mewn Cyfarfodydd Cyffredinol;
  • Cael sefyll am unrhyw swydd etholedig o fewn i Undeb y Myfyrwyr;
  • Bod ar dir i wneud cais i’ch penodi’n Ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr;
  • Cael cymryd rhan yn y gwaith o redeg cymdeithasau a thimau chwaraeon y myfyrwyr;
  • Cael cynrychiolaeth ar bob lefel yn y Brifysgol;
  • Cael cymorth a chyngor i aelodau;
  • Llais unedig i ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig i fyfyrwyr.

Gall unigolion ddewis peidio â bod yn aelod o UMAber trwy roi gwybod i UMAber nad ydynt yn dymuno bod yn aelod. Rhaid gwneud hyn bob blwyddyn.

Mae gan unigolion hawl i benderfynu peidio ag ymaelodi ag UMAber cyhyd â’u bod yn gwneud hynny o fewn 10 diwrnod ar ôl cofrestru yn y Brifysgol. Os yw myfyriwr yn dymuno manteisio ar yr hawl i beidio â bod yn aelod o’r Undeb dylai roi gwybod i Lywydd Undeb y Myfyrwyr trwy ysgrifennu at Y Llywydd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, neu ebostio ceostaff@aber.ac.uk.

Os yw myfyriwr yn gweithredu ei hawl i beidio â bod yn aelod o UMAber bydd hyn yn para tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, onibai ei fod/bod yn gwneud cais i ailymuno trwy ysgrifennu neu anfon neges ebost at Lywydd yr Undeb gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod. Os yw’n dymuno parhau i beidio â bod yn aelod bydd yn rhaid nodi hynny unwaith eto ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.

Ni fydd gan y myfyrwyr sy’n dewis peidio ag ymaelodi yr hawliau na’r breintiau a ganiateir i aelodau UMAber. Y canlynol fydd canlyniadau peidio â bod yn aelod:

  1. Ni fydd myfyriwr yn cael cymryd rhan yn unrhyw un o brosesau democrataidd UMAber;
  2. Ni fydd myfyriwr yn cael dal swydd yn unrhyw un o glybiau neu gymdeithasau UMAber, gan eu bod yn atebol yn ariannol i UMAber (ond gall myfyrwyr cofrestredig PA ymuno ag unrhyw un o glybiau neu gymdeithasau UMAber yn aelod cyswllt yn amodol ar dalu’r tâl aelodaeth priodol);
  3. Ni chynrychiolir y myfyriwr gan UMAber mewn unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys gweithdrefnau disgyblaethol, academaidd neu gwynion;
  4. Ni fydd myfyriwr yn cael cerdyn NUS Extra neu unrhyw gerdyn gostyngiad arall Undeb y Myfyrwyr; a
  5. Dim ond fel gwestai y gall myfyriwr fod yn bresennol yn nigwyddiadau swyddogol UMAber.

Cyfansoddiad UMAber

Am ei fod yn Elusen gofrestredig, llywodraethir UMAber gan y gyfraith elusennau a rhaid gwario ei incwm ar ei amcanion craidd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am adolygu cyfansoddiad UMAber a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau iddo. Gellir gweld copi o’r cyfansoddiad cyfredol fan hyn http://www.abersu.co.uk/eich-undeb/printman/ neu trwy ddilyn y ddolen isod.

                Cyfansoddiad 

I sicrhau cydymffurfio â Deddf Addysg 1994 Rhan II, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi Cod Ymarfer ar y dull y dylid gweithredu gofynion y Ddeddf yng nghyswllt UMAber.

                Cod Ymarfer