Materion Israddedigion

DIWEDDARIADAU

Amgylchiadau Arbennig:  Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Dau mewn digon o bryd, a CYN diwedd cyfnod asesiadau. Gwnewch hyn trwy eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we.   Mae rhagor o wybodaeth am Amgylchiadau Arbennig i gael yma 3. Asesu Cynlluniau trwy Gwrs  : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth

Canlyniadau Semester Dau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb ar y dyddiad canlynol:

  • Holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf: Dydd Iau 26 Mehefin
  • Pob myfyriwr arall: Dydd Iau 3 Gorffennaf

Asesiadau Ailgynnig yr Haf

Mae'n hanfodol eich bod yn gwirio'ch canlyniadau a'ch tasg Asesiadau Ailgynnig Haf ar gyfer modiwlau rydych wedi'ch cofrestru'n awtomatig i'w hailsefyll ac ar gyfer unrhyw fodiwlau y mae gennych yr opsiwn i ailsefyll neu beidio.  Mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch tasg i weld eich opsiynau os oes gennych rai.  Mae’r dasg ar gael fel arfer y diwrnod y caiff eich canlyniadau eu rhyddhau am bythefnos.

Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir.  Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio.  Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin fan bellaf.

Gwybodaeth i Israddedigion

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig ugfstaff@aber.ac.uk (01970) 622945
Tystysgrifau aocstaff@aber.ac.uk (01970) 622945
Graddio gaostaff@aber.ac.uk (01970) 622945

Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Gwener 9yb at 4yp ar y llawr cyntaf, adeilad Cledwyn , campws Penglais.

Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr

Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth,

Llawr cyntaf, Adeilad Cledwyn,

Campws Penglais,

Aberystwyth

SY23 3DD

Gwasanaethau ymholiad rhithwir