Apeliadau - Gwybodaeth Pwysig

Mae gan y Brifysgol drefn apelio a ddiffinir gan Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

Noder bod yn rhaid gwneud pob apêl o fewn pedwar niwrnod ar ddeg  i gyhoeddi'r canlyniadau.  Ni chewch apelio yn erbyn eich canlyniadau canlyniadau semester un ar ddiwedd y sesiwn.

Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apêl i'r Bwrdd Arholi cyn iddo ddyfarnu.

Bydd hawl gan fyfyrwyr i ofyn am gadarnhad fod y Bwrdd Arholi wedi ystyried unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi amharu ar eu gwaith yn yr arholiad, ac y rhoddwyd gwybod amdanynt ymlaen llaw i'r adrannau.

Gan hynny, er eu lles eu hunain, dylai myfyrwyr ofalu au bod yn rhoi gwybod i'w hadrannau trwy lythyr am unrhyw amgylchiadau a allai amharu ar eu gwaith mewn arholiad.  Dylid gwneud hynny cyn i'r Bwrdd arholi perthnasol gyfarfod.

Noder mai cyfrifoldeb y myfyriwr  yw dweud wrth holl adrannau am amgylchiadau arbennig a allai gael efaithh ar ei gwaith neu gynnydd.  Gallai'r canlyniadau o fethu â gwneud hyn fod yn dychrineb, ac achosi dim ond problemai wedyn.  Bydd pob gwybodaeth o'r fath yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio i sicrhau fod eich gwaith yn cael yr ystyriaeth lawnaf posil.

Os dewis y myfyriwr yw i gadw gwybodaeth o'r fath rhag yr adrannau, ni allwch gyflwyno apêl wedyn gan honni ei bod yn rhy swil neu nad oedd yn tybio ei fod yn bwysig.  Gwrthodir apeliadau a seilir ar resymau y gellid yn rhesymol fod wedi eu cyflwyno i adrannau ymlaen llaw.  Sicrhewch fod eich adran yn cael wybodaeth i gyd.

Dyma un agwedd yn unig wrth gwrs ar gyfrifoldeb myfyrwyr a'r Brifysgol, y naill i'r llall.  Mae gynnym bolisi o fod yn agored yn ein trefniadaeth, a disgwyliwn ichi ymddwyn yn yr un modd tuag atom ninau.

Trefn ychydig yn wahanol sydd wrth apelio yn erbyn canlyniad gradd derfynol.  Yn hyn o beth rhaid i fyfywyr ofyn yn  gyntaf am gadarhau eu canlyniad yn ôl y meini prawf canlynol:

Mae gan ymgeisydd yn arholiadau'r Brifysgol yr hawl i ofyn am gadarnhau un o’r canlynol:

  1. Fod yr asesiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol yn rhydd o wallau rhifyddol neu wallau ffeithiol eraill;
  2. Fod yr arholwyr wedi cael gwybod o amgylchiadau personol eithriadol a allai fod wedi cael effaith andwyol ar waith academaidd myfyriwr yn marn y myfyriwr hwnw, ac y rhoddwy gwybod amdanynt gan y myfyriwr cyn cyfarfod o'r Bwrdd/Byrddau Arholi perthnasol.
  3. Fod yr arholwyr wedi cael gwybod am ddiffygion neu anghysonderau wrth gynnal yr arholiad neu yn yr arweiniad ysgrifenedig ynghylch yr arholiad, lle y gellir dangos fod diffygion neu anghysonderau neu arweiniad o'r fath wedi cael effaith andwyol ar waith yr ymgeisydd.

Fel arfer ni dderbynnir tystiolaeth o amgylchiadau personol eithriadol na hysbyswyd o'r blaen yn sail i apêl, oni bai fod rheswm da dros egluro pam nad oedd y myfyriwr yn medru rhoi gwybod amdanynt cyn y cyfarfod o'r Bwrdd Arholi perthnasol.

Ni all ymgeiswyr fynd yn eu blaen i apelio'n ffurfiol ond ar ôl cadarnhau canlyniad ei gradd.

Weithdrefn Apelio