Apeliadau

Y Drefn i’w Dilyn ar ôl Byrddau Arholi’r Semester

Dylai myfyrwyr nodi bod ganddynt hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi Cyfadran y Brifysgol.  Mae’n rhaid anfon unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad yn ysgrifenedig at y Cofrestrydd fel y bo’n ei gyrraedd ddim mwy na phedwar diwrnod ar ddeg wedi dyddiad y llythyr hwn.  Y mae’r Brifysgol yn barod i ystyried yn unig y cyfryw apeliadau sydd wedi eu seilio ar amgylchiadau personol eithriadol nad oeddent yn hysbys i’r Adran neu i Fwrdd Arholi’r Gyfadran briodol ar adeg yr arholiad ac y gellir dangos iddynt andwyo gwaith yr ymgeisydd yn yr arholiad.

Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apêl os na fydd y myfyriwr yn medru rhoi rheswm da paham na roddwyd gwybod i’r Bwrdd Arholi adrannol neu Gyfadrannol perthnasol am sail yr apêl cyn iddo wneud ei ddyfarniad.

Bydd hawl gan fyfyrwyr ofyn am brawf o’r ffaith fod amgylchiadau perthnasol y gellid bod wedi cael effaith andwyol ar eu perfformiad yn yr arholiad, ac y rhoddwyd gwybod amdanynt o’r blaen i adrannau, wedi cael eu hystyried gan y Byrddau Arholi dan sylw.

Manylion ar gael yn y Rheoliad Ynglyn â Chynnydd Academaidd a’r ffurflen Cais am Apelio yn Erbyn Penderfyniad Bwrdd Arholi ar gael yn y Swyddfa Academaidd.

Y Drefn sydd i’w Dilyn ar ôl Cyhoeddi Dosbarth Terfynol y Radd

Gwirio

  1. Mae hawl gan ymgeisydd ofyn am gael gwirio un neu fwy o’r canlynol mewn perthynas â gradd gychwynnol neu gymhwyster uwchraddedig trwy gwrs:
    1.1
    nad yw’r asesiad a gyhoeddir gan y Brifysgol yn cynnwys gwallau rhifyddol neu wallau ffeithiol eraill;
    1.2
    y bu’r arholwyr yn ymwybodol o amgylchiadau personol eithriadol a adroddwyd gan y myfyriwr cyn cyfarfod y Bwrdd neu’r Byrddau Arholi o dan sylw ac a allai, ym marn y myfyriwr, fod wedi cael effaith andwyol ar ei berfformiad/pherfformiad academaidd;
    1.3
    y bu’r arholwyr yn ymwybodol o ddiffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal yr arholiadau neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r cyngor sy’n ymwneud â hwy, pan all y cyfryw ddiffygion neu afreoleidd-dra neu gyngor, ym marn y myfyriwr, fod wedi cael effaith andwyol ar ei berfformiad/pherfformiad. 

    Yn ychwanegol, caiff ymgeisydd am radd Meistr drwy Arholiad a Thraethawd Estynedig, yn unol â’r seiliau a nodir o dan 1.1 i 1.3 uchod, geisio cael gwirio penderfyniad y Bwrdd Arholi i beidio â dyfarnu marc Rhagoriaeth mewn perthynas â naill ran neu’r llall y cynllun astudio (h.y. yr arholiad neu’r traethawd estynedig).

  2. Bydd ymgeisydd sy’n dymuno cael y cyfryw wiriad yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Cofrestrydd, fel rheol o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad cyfarfod y Bwrdd Arholi perthnasol. Gellir derbyn ceisiadau am wiriad a gyflwynir y tu allan i’r amserlen hon â rheswm da yn ôl disgresiwn y Cofrestrydd. Rhaid i geisiadau am wiriad gynnwys manylion unrhyw ddiffygion neu afreoleidd-dra honedig wrth gynnal yr arholiadau neu mewn unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor sy’n ymwneud â hwy, neu fanylion unrhyw amgylchiadau personol eithriadol.

*Yng nghyd-destun y Weithdrefn hon arholiad y Brifysgol yw arholiad neu ddarn o waith a asesir sy’n cyfrif tuag at ganlyniad cyffredinol yr ymgeisydd ac a gynhelir, felly, gan un o Fyrddau Arholi’r Brifysgol ac iddo arholwyr mewnol ac allanol.

Mae'r Weithdrefn Gwirio ac Apelio a’r ffurflen Cais am Wirio ar gael yn y Swyddfa Academaidd.