Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar
Dyma’r rheolau a fydd fel arfer yn pennu dosbarthiad gradd anrhydedd:
- Fel arfer, pennir dosbarth y radd yn ei chrynswth ar sail cyfartaledd y rhaeadr farciau am bob modiwl sy’n cyfrannu tuag at asesiad y radd anrhydedd, gan ddefnyddio’r dosbarthiadau yn Nhabl 1:
Tabl 1 - Dosbarthiadau Graddau
Dosbarth Marc I 70% ac uwch II(1) 60-69% II(2) 50-59% III 40-49% PASIO 35-39% METHU llai na 35%
- Wrth gyfrif y marc a geir ar gyfartaledd wedi ei addasu, gweithredir yn ôl y rheolau canlynol:
Rhoir pwysiad i bob marc yn ôl gwerth y credydau sydd i bob modiwl (h.y. bydd modiwlau 20 credyd gwerth ddwywaith y modiwlau 10 credyd, ac yyb).
Caiff marciau eu “rhaeadru” yn ôl y rheolau canlynol: - Cynlluniau Tair Blynedd
Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel 3, sy’n cael pwysiad o 3.
Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel 3 a Lefel 2, sy’n cael pwysiad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefelau 3 a 2, a chredydau Lefel 1, sy’n cael pwysiad o 1. - Cynlluniau 4 blynedd yn cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan 1
Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel 4, sy’n cael pwysiad o 4.
Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel 4 a Lefel 3, sy’n cael pwysiad o 3.
Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel 3 a Lefel 2, sy’n cael pwysiad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel 3 a 2, ac unrhyw gredydau Lefel 1, sy’n cael pwysiad o 1. - Cynlluniau 4 blynedd yn cynnwys 2 flynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan 1 yn ogystal â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn Profiad Gwaith
Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel 3, sy’n cael pwysiad o 3.
Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel 3 a Lefel 2, sy’n cael pwysiad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel 3 a 2 a chredydau Lefel 1, sy’n cael pwysiad o 1.
Band S: 120 credyd â phwysiad fel a bennir gan yr Adrannau Anrhydedd. - Cynlluniau 5 mlynedd yn cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan 1 yn ogystal â Blwyddyn Allan (MEng)
Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel 4, sy’n cael pwysiad o 4.
Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel 4 a Lefel 3, sy’n cael pwysiad o 3.
Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel 3 a Lefel 2, sy’n cael pwysiad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel 3 a 2, a Lefel 1, sy’n cael pwysiad o 1.
Band S: 120 credyd â phwysiad fel a bennir gan yr Adrannau Anrhydedd.Noder:
Wrth bennu marciau yn ôl Bandiau, ni chaniateir i farc Lefel 2 ymddangos mewn Band uwch na marc Lefel 3.
- Cynlluniau Tair Blynedd