Trefniadau Unigol ar gyfer Arholiadau - 2011/2012

Trefniadau Unigol ar gyfer Arholiadau

Gwelwch hefyd y Rheolau a Rheoliadau i Fyfyrwyr am fwy o fanylion.

1. Pwy sy’n gymwys?

Bydd trefniadau arholiad unigol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr sydd â chyflwr meddygol, anabledd neu amgylchiadau arbennig, er mwyn iddynt allu perfformio ar sail cyfartal â myfyrwyr eraill.

2. Pwy sy’n argymell trefniadau unigol?
Bydd Trefniadau Unigol yn cael eu gwneud ar ôl cael argymhelliad gan yr Ymgynghorydd Hygyrchedd, gyda chaniatâd Arolygydd yr Arholiadau ac mae’r penderfyniad yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Deon perthnasol.

3. Pa drefniadau sydd ar gael?

Yn ddibynnol ar anghenion yr unigolion, ar dystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu, a chan gadw’r canlyniadau dysgu perthnasol mewn cof, gellir gwneud y trefniadau isod, ar gyfer arholiadau ac ar gyfer profion mewn dosbarthiadau fel ei gilydd:

  • Ffurf arall ar asesu (e.e. asesiad ar lafar / traethawd estynedig)
  • Amser ychwanegol
  • Ystafelloedd neu weithfannau dynodedig
  • Technoleg gynorthwyol (gan gynnwys cyfrifiadur, ond heb gael defnyddio’r rhyngrwyd)
  • Meddalwedd gwirio sillafu safonol ar y bar offer
  • Rhywun i ysgrifennu neu ddarllen ar ran y myfyriwr
  • Ymarfer gweithio gyda darllenydd neu rywun i ysgrifennu
  • Arholiadau y tu allan i’r cyfnod arholi arferol
  • Egwyliau
  • Defnyddio troshaenau lliw
  • Papurau ar ffurfiau eraill (e.e. Braille)
  • Amserlennu arholiadau yn y bore neu’r prynhawn yn unig (gyda chaniatâd adran academaidd y myfyriwr)


4. Cyfrifoldeb y myfyriwr:

  • 4.1 Cyfrifoldeb y myfyriwr unigol yw hysbysu’r Brifysgol am ei ofynion/gofynion cyn gynted ag y bo modd: cyn ymuno â’r Brifysgol, wrth gofrestru am y tro cyntaf neu yn nes ymlaen wrth i anghenion godi neu wrth i bethau newid, ac yn ddelfrydol, dylai hysbysu’r Brifysgol o leiaf bum wythnos cyn yr arholiadau.
  • 4.2 Mae angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth briodol o’u hangen i’r Ymgynghorydd Hygyrchedd (Cymorth Dysgwyr ac Anabledd) a bydd yr ymgynghorydd yn rhoi cyngor ar natur y dystiolaeth y bydd ei hangen.
  • 4.3 Mae’n bosib y bydd yn rhaid gwneud trefniadau arholiad unigol ar gyfer myfyriwr os cred Arolygydd yr Arholiadau bod perygl y gallai’r myfyriwr hwnnw heintio myfyrwyr eraill neu darfu arnynt.


5. Cyfrifoldeb yr Ymgynghorydd Hygyrchedd:

  • 5.1 Yr Ymgynghorydd Hygyrchedd fydd yn gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr a rhoi cyngor iddynt, casglu Asesiadau o Anghenion Astudio a Thystysgrifau Meddygol (neu ddogfennau cyfwerth).
  • 5.2 Yr Ymgynghorydd Hygyrchedd fydd yn gyfrifol am argymell trefniadau unigol ac am roi gwybod i’r myfyriwr amdanynt ynghyd ag Arolygydd yr Arholiadau a’r Adran Academaidd berthnasol, o leiaf bum wythnos cyn cychwyn y cyfnod arholiadau.
  • 5.3 Bydd yr Ymgynghorydd Hygyrchedd yn argymell trefniadau unigol neu drefniadau mynediad, ar ôl trafod y mater ymlaen llaw â Chanolfan Iechyd y Myfyrwyr neu gydweithwyr o Gymorth Dysgwyr ac Anableddau ac ar ôl edrych ar ganllawiau ac argymhellion y Brifysgol sydd mewn grym ar y pryd.


6. Cyfrifoldeb Arolygydd yr Arholiadau:

  • 6.1 Arolygydd yr Arholiadau fydd yn gyfrifol am wneud y trefniadau unigol, ar ôl trafod y mater ymlaen llaw gyda’r Ymgynghorydd Hygyrchedd, yr adran academaidd a/ neu’r maes gwasanaeth.
  • 6.2 Os bydd anghydfod yn codi ynglŷn â’r argymhellion neu’r trefniadau a wnaed, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Arolygydd yr Arholiadau neu at y Deon. Y Deon fydd â’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol.
  • 6.3 Bydd Arolygydd yr Arholiadau’n gyfrifol am roi gwybodaeth i’r goruchwylwyr, y technegwyr neu’r staff cymorth, gan barchu cyfrinachedd a dim ond ar sail angen y bydd gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhannu.

7. Gweithredu ac Adolygu:

  • 7.1 Gwneir trefniadau arholiad unigol er mwyn ymateb i anghenion unigol ac er mwyn cynnal safonau academaidd. Bydd Arolygydd yr Arholiadau’n galw Panel a sefydlwyd er mwyn adolygu trefniadau unigol, o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd yn adrodd i’r Pwyllgor Materion Academaidd.
  • 7.2 Bydd y bobl ganlynol ar y Panel: Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (Cadeirydd); Arolygydd yr Arholiadau; Cydlynydd Cymorth Dysgwyr; yr Ymgynghorydd Hygyrchedd; Nyrs y Brifysgol; a Swyddog Anableddau Urdd y Myfyrwyr.