Materion Academaidd
Arholiadau i'w sefyll draw o Aberystwyth
Yr arfer yw cynnal pob arholiad yn Aberystwyth. Mewn achosion eithriadol gellir rhoi caniatâd i gynnal arholiadau draw o Aberystwyth, yn amodol ar y canllawiau canlynol:
- Rhaid i Ddeon y Gyfadran berthnasol sy'n gyfrifol am y modiwl dan sylw gymeradwyo ceisiadau am sefyll arholiadau draw o Aberystwyth.
- Dylid cyflwyno ceisiadau o'r fath, boed oddi wrth fyfyrwyr neu adrannau ar ran myfyrwyr, erbyn 1 Tachwedd yn Semester 1 ac erbyn 20 Mawrth yn Semester 2; dylid eu cyfeirio i'r Swyddfa Academaidd.
- Lle bo ceisiadau o'r fath wedi eu cymeradwyo dylai adrannau mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Academaidd wneud trefniadau addas gyda'r unigolion a enwyd yn y Brifysgol neu'r ganolfan arall, o leiaf bedair wythnos cyn dechrau cyfnod yr arholiadau.
- Dylai adrannau ystyried gosod arholiadau ar wahân i fyfyrwyr cyfnewid sy'n dod i Aberystwyth fel y gallant eu sefyll cyn gadael Aberystwyth.
- Dylid sefyll arholiadau ar yr un pryd (neu mor agos â hynny ag sy'n ymarferol) yn Aberystwyth a'r man arall. Lle bo amser yn mynd heibio rhwng arholiadau a gynhelir mewn canolfannau gwahanol, dylid gosod papurau gwahanol fel arfer.
- Awgrymir y dylid ffacsio papurau i'r Brifysgol arall ar fore neu brynhawn cynnal yr arholiad yn Aberystwyth. Dylid cymryd camau rhesymol (e.e. rhif ffacs wrth gefn) rhag ofn bod peiriannau'n methu.
- Dylid gofyn i'r Brifysgol neu'r lleoliad arall fod â dulliau priodol o gadarnhau enwau'r ymgeiswyr.
- Dylai trefniadau gyda phrifysgolion eraill gynnwys dulliau o ddychwelyd sgriptiau i Aberystwyth mor gyflym ag y bo modd er mwyn eu marcio.
- Mae'r Brifysgol wedi sefydlu trefniadau gyda'r Cyngor Prydeinig (yn Athen a Kuala Lumpur) sy'n cynnwys arholiadau atodol a rhai eraill. Y disgwyl yw y bydd y trefniadau hyn yn parhau fel ar hyn o bryn.