Yr Atodiad Diploma
Bwriedir i'r Atodiad Diploma fanylu ar ganlyniadau terfynol myfyrwyr. Ei amcan yw hwyluso'r gydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol a roddir i gymwysterau ar draws Ewrop. Fe'i lluniwyd er mwyn darparu disgrifiad o lefel, statws, cynnwys a chyd-destun astudiaethau'r myfyriwr dan sylw; cynhwysir ynddo hefyd gofnod llawn o'r marciau a enillwyd ym mhob modiwl drwy gydol y cyfnod astudio.
Darperir y ddogfen gan sefydliadau cenedlaethol yn ôl patrwm a gafodd ei ddatblygu, ei brofi a'i addasu gan gyd-weithgor y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop ac UNESCO. Bydd yr Atodiad Diploma'n rhoi amlygrwydd a sylw i Brifysgol Cymru Aberystwyth dramor ac yn gwella rhagolygon ein myfyrwyr am swyddi o fewn eu gwledydd ac yn rhyngwladol.
Gellir ofyn am Atodiad Diploma ar ôl i chi orffen eich cwrs a chymryd eich gradd gan e-bostio aocstaff@aber.ac.uk