Dy Lais ar Waith

Trwy Dy Lais ar Waith, mae staff a myfyrwyr Aberystwyth yn cydweithio i wneud y Brifysgol yn lle eithriadol.

Mae gwasanaethau Dy Lais ar Waith, megis Rho Wybod Nawr a'r Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), yn casglu eich adborth inni gael gwybod beth yn eich barn chi sy'n cael ei wneud yn dda, lle y gallwn wella a beth sy'n bwysig i chi.

 

 

Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr

Yr Athro Tim Woods

 

 

 

 

 

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu profiad myfyriwr o’r radd flaenaf i chi. Bob tymor byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ac yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddweud wrthym beth yr ydym yn ei wneud yn dda, beth hoffech chi i ni wella, a beth ddylai ein blaenoriaethau ar gyfer gwelliant fod. Gan weithio gydag UM Aber a gyda’ch mewnbwn chi, gallwn weithio gyda’n gilydd i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol i bawb.

Elizabeth Manners, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr 2021-22

Elizabeth Manners

 

 

 

 

 

Mae llais myfyrwyr mor bwysig i'r penderfyniadau a wneir bob dydd gan y Brifysgol. Mae eich llais yn helpu i lunio eich profiad yma yn Aber, a gwneud iddo fod y gorau a'r mwyaf boddhaus y gall fod. P'un ai os oes gennych rywbeth cadarnhaol i wneud sylwadau arno, fel yr hyn rydych chi'n ei fwynhau neu'n elwa ohono, neu os oes gennych sylwadau am newidiadau y gall pawb elwa ohonynt, rydym yma i wrando. Rydym yn darllen ac yn gweithredu o ganlyniad i bob sylw er mwyn cynnig y profiad myfyriwr gorau i chi.