Rhwydwaith LGB&T Staff Aber

rainbow flagPwy ydym ni:

Sefydlwyd Rhwydwaith LGB&T Staff Aber yn 2010. Mae croeso i unrhyw un sy’n gweithio yn y brifysgol (mewn unrhyw swydd) ac unrhyw uwchraddedigion ymchwil sy’n eu cyfrif eu hunain yn lesbaidd, hoyw, deurywiol, trans, queer neu ymholgar, ynghyd â chyfeillion ein cymuned.

Yr hyn a wnawn:

Sefydlwyd Rhwydwaith LGB&T Staff Aber i ganiatáu i staff LGB&T gymdeithasu, rhwydweithio, trafod materion proffesiynol perthnasol a mwynhau digwyddiadau megis dangosiadau ffilm a grwpiau darllen. Mae croeso i unrhyw un ddod i gyfranogi yn y bywyd cymdeithasol neu redeg y grŵp (i gael manylion cysylltwch â Natasha Alden (nla@aber.ac.uk)).

Sut mae’r Brifysgol yn ein cefnogi:

Mae Aber wedi bod yn gyfeillgar i wrywgydwyr er tro byd, ac – yn ôl llyfr Niall Griffith, Real Aberystwyth (Seren, 2008) – Aber yw ‘prifddinas hoyw answyddogol Cymru’. Mae’r brifysgol wedi sefydlu nifer o fesurau dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod Aber yn lle croesawgar a goddefgar i weithio ac astudio ynddo.

  • Diogelir yr holl staff a myfyrwyr gan bolisi aflonyddu’r Brifysgol
  • Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant mewn materion LGBT fel rhan o’r hyfforddiant ar Amrywioldeb yn y Gweithle sy’n orfodol i bob un ohonom
  • Mae AD yn medru cefnogi unrhyw un sydd â phroblemau sy’n deillio o gyfeiriadedd rhywiol neu faterion yn ymwneud ag amrywioldeb rhywiol
  • Rydym yn falch o fod yn Hyrwyddwyr Stonewall!

Lle a phryd?

I gael gwybodaeth am y digwyddiadau, cysylltwch â Natasha, a fydd yn eich gosod ar y rhestr bostio. Rydyn ni’n gobeithio dechrau grŵp darllen Ffuglen Queer yn ystod y semester nesaf, a chynnal tymor ffilmiau hoyw i ddathlu mis Hanes LGB yn 2013. Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ddigwyddiadau, siaradwyr neu achlysuron cymdeithasol, cysylltwch â ni!