Rhwydweithiau a Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Staff
Mae gan Brifysgol Aberystwyth amrywiaeth o hyrwyddwyr ac mae’n ymwneud â nifer o rwydweithiau mewnol ac allanol sy’n helpu i ymgynghori, hyrwyddo a rhannu ymarfer da ar ystod o feysydd cydraddoldeb ac amrywiaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Olymbia Petrou ar opp@aber.ac.uk neu 8598.
AU Equality Champions - Hyrwyddwyr Cydraddoldeb Aberystwyth – Lansiwyd rhwydwaith staff o Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ym mis Awst 2011 i hyrwyddo ymhellach gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ehangach ar draws PA. Lladmeryddion cydraddoldeb yw’r hyrwyddwyr a’u nod yw codi ymwybyddiaeth o egwyddorion cydraddoldeb drwy’r Brifysgol gyfan.
Siarter/Hyrwyddwr Athena SWAN – Ym mis Mai 2011 daeth PA yn aelod o Siarter Athena SWAN sy’n cydnabod ac yn dathlu ymarfer cyflogi da i fenywod sy’n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn addysg uwch ac ymchwil. Dr. Kate Bullen (kab@aber.ac.uk), Pennaeth yr Adran Seicoleg yw ein Hyrwyddwr enwebedig.
Hyrwyddwyr Stonewall Cymru – Ym mis Gorffennaf 2011 ymunodd PA â Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru ‘fforwm ymarfer da Prydain ar gyfer tueddfryd rhywiol lle gall cyflogwyr weithio gyda Stonewall, a gyda’i gilydd, i hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithle’
Rhwydweithiau - Mewnol:
Rhwydwaith Hyrwyddwyr Cydraddoldeb (dwywaith y semester)
Mae ein rhwydwaith staff o Hyrwyddwyr Cydraddoldeb yn chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo ledled y Brifysgol.
Cysylltwch ag Olymbia ar opp@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
Rhwydwaith Staff LGB&T Aber (unwaith y semester)
Sefydlwyd y Rhwydwaith i ganiatáu i staff LGB&T gymdeithasu, rhwydweithio, trafod materion proffesiynol perthnasol a mwynhau digwyddiadau megis dangosiadau ffilm a grwpiau darllen.
Cysylltwch â Tasha ar nla@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
Fforwm Hygyrchedd (unwaith y semester)
Mae’r Fforwm Hygyrchedd yn trafod ac yn hyrwyddo cydraddoldeb anabledd ac yn ymgysylltu / ymgynghori â staff a myfyrwyr ar gymorth, problemau a mentrau anabledd . Anogir staff a myfyrwyr ag anableddau i gymryd rhan yn y fforwm.
Cysylltwch â Pauline ar puw@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
Cydlynwyr Anabledd(unwaith y mis)
Mae ein rhwydwaith o Gydlynwyr Anabledd sydd wedi’u lleoli ym mhob adran yn trafod amrywiol faterion anabledd, mentrau ac yn rhannu ymarfer da ar gymorth anabledd.
Cysylltwch â Pauline ar puw@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
Bord Gron y Merched(unwaith y semester)
Mae Bord Gron y Merched yn cyfarfod unwaith y semester i drafod a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ymgysylltu â staff ar gymorth, problemau a mentrau rhywedd, e.e. Athena Swan, Cyflog Cyfartal a mentora.
Cysylltwch ag Olymbia ar opp@aber.ac.uk am ragor o fanylion.
Rhwydweithiau - Allanol:
Grŵp Cydraddoldeb a Hyder Ceredigion (Chwarterol)
Mae’r grŵp hwn, a drefnir gan Heddlu Dyfed-Powys a’i fynychu gan gynrychiolwyr amrywiol y gymuned, e.e. ymgyrchwyr anabledd, cynrychiolwyr LGB&T, Age Concern, cefnogi dioddefwyr. Mae’r grŵp hwn, yn trafod materion cydraddoldeb lleol ac ystadegau ynghylch troseddau yn erbyn grwpiau lleiafrifol.
Uned Herio Cydraddoldeb Grŵp Cyswllt yr Iaith Gymraeg (Chwarterol)
Mae’r grŵp hwn, a drefnir gan Heddlu Dyfed-Powys a’i fynychu gan gynrychiolwyr amrywiol y gymuned, e.e. ymgyrchwyr anabledd, cynrychiolwyr LGB&T, Age Concern, cefnogi dioddefwyr. Mae’r grŵp hwn, yn trafod materion cydraddoldeb lleol ac ystadegau ynghylch troseddau yn erbyn grwpiau lleiafrifol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb A Hawliau Dynol Cyfnewid Cydraddoldeb (Cymru ) (Chwarterol)
Mae’r Rhwydwaith Cyfnewid Cydraddoldeb yn hyrwyddo cyfnewid ymarfer cyflogi effeithiol ac arloesol i gyflogwyr, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr sy’n ymrwymo i gyflawni cydraddoldeb yn y gweithle. Mae aelodaeth o’r rhwydwaith yn cynnwys digwyddiadau rheolaidd ledled Cymru ar faterion cydraddoldeb allweddol, datblygu arweinyddiaeth i hyrwyddo cydraddoldeb, ffurfio partneriaethau effeithiol i gyflawni’r newid, cynhadledd Flynyddol a chyfleoedd i rwydweithio.