Cefnogaeth o safbwynt Ymddeol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dau gynllun pensiwn – Cynllun Blwydd-Dâl y Prifysgolion (USS) i staff sydd ar Radd 6 ac uwch, a Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth (CPAPA) i staff ar Raddau 1 i 5.  I fod yn gymwys, mae angen i staff fod wedi’u cyflogi ar gontractau o 3 mis neu fwy.

Mae gweithwyr yn cyfrannu 6.35% o’u cyflog i gynllun USS, ac mae’r Brifysgol yn cyfrannu’r hyn sy’n cyfateb i 16% o’u cyflog.  Mae cyfraniadau gweithwyr i CPAPA hefyd yn 6.35% o’u cyflog ac mae’r Brifysgol yn cyfrannu’r hyn sy’n cyfateb i 22.05% o’u cyflog.

Gellir cael gwybodaeth am y ddau gynllun pensiwn hyn gan yr Is-Adran Cyflogau yn yr Adran Gyllid. Mae rhagor o wybodaeth am fuddion USS ar gael ar wefan USS, sef www.usshq.co.uk.