Cefnogaeth o safbwynt Ffordd o Fyw

Cynllun Beicio

Cynllun Beicio Am ragor o fanylion, gweler 

gwefan y cynllun ,

am atebion i gwestiynau cyffredin, gweler

www.cyclescheme.co.uk/employer,faqs.htm,

neu fel arall,  cysylltwch â Jean Glenni ar est. 8748 neu jlg@aber.ac.uk.

Rhannu Car

Rhannu CarYn rhan o’i chyfrifoldeb amgylcheddol, mae’r Brifysgol yn annog ei staff i ddefnyddio mentrau sy’n ystyriol o’r amgylchedd, megis rhannu ceir, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r wefan rhannu ceir ‘rhannucarcc.com’ yn rhoi gwybodaeth ynghylch canfod rhywun sydd â char a allai fod yn mynd yr un ffordd â chi, neu rannu cost y cludiant.

Cynaladwyedd Amgylcheddol

Gofal da' gwastraifCeir gwefan cynaladwyedd amgylcheddol newydd sy’n rhoi gwybodaeth a dolenni i weithgareddau PA. Mae’r safle yn cynnwys sut y gallwch wneud eich rhan a dolenni i ymchwil a mentrau amgylcheddol adrannol yn PA. Ceir hefyd ddolenni i wefan ‘Gofal ‘da’r Gwastraff’ yr Adran Ystadau, a grëwyd yn rhan o ymgyrch gyfathrebu i leihau defnydd o ynni a dwr. Mae manylion y trefniadau gwastraff ac ailgylchu a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gwastraff ac Ailgylchu y Gwasanaethau Ty.

Gweithio’n Hyblyg

Gweithio' HyblygMae gan PA amrywiaeth o bolisïau i alluogi aelodau o staff i fwynhau gwell cydbwysedd rhwng anghenion gwaith ac anghenion personol, e.e. Polisi Gweithio’n Hyblyg ac amrywiaeth o bolisïau Absenoldeb ar dudalennau Telerau ac Amodau y wefan AD.

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Canolfan y CelfyddydauEin Canolfan Gelfyddydau arobryn yw’r ganolfan gelfyddydol fwyaf a phrysuraf yng Nghymru gyfan. Mae’n cynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys drama, cerddoriaeth glasurol, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilm, darlleniadau llenyddol, bandiau byw, opera a chomedi. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei gynnal dilynwch y ddolen ganlynol: www.aber.ac.uk/artscentre

SinemaYmhlith y cynigion arbennig i staff y brifysgol mae tocynnau sinema am bris llai yn gynnar gyda’r nos yn ystod yr wythnos – ffordd berffaith i ymlacio wedi diwrnod prysur! Mae rhaglen yr hyn sy’n cael ei ddangos yn y sinema ar hyn o bryd i’w gweld ar www.aberystwythartscentre.co.uk/whatson/cinema/. Neu beth am ddysgu sgìl newydd – mae popeth o ddosbarthiadau drama a dawnsio bol i ddosbarthiadau ffotograffiaeth a chrochenwaith ar gael yn rhan o’r rhaglen brysur o gyrsiau, gyda rhywbeth i weddu i bobl o bob oed a gallu: http://www.aberystwythartscentre.co.uk/misc/courses/.

Siop LlyfrauHefyd, peidiwch ag anghofio ymweld â’r caffis a’r barrau poblogaidd, sydd ar agor saith niwrnod yr wythnos ac sy’n ddelfrydol ar gyfer amser coffi a chinio, neu i gwrdd â ffrindiau a theulu. Mae’r Siop Lyfrau a’r Siop Grefft a Dylunio yn cynnig cyfle i brynu anrhegion neu rywbeth arbennig i chi eich hun, a phopeth o’r ffuglen ddiweddaraf i lyfrau testun a deunydd ymchwil academaidd: http://www.aberystwythartscentre.co.uk/information/shop.shtml

Menter Les

Menter LesMae’n bleser gan Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth gynnig partneriaeth newydd gyda Chanolfan Iachau Naturiol Stryd y Popty, sy’n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella eich profiad ffitrwydd. Gall holl aelodau Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth hawlio disgownt o 10% ar yr holl driniaethau a restrir ar wefan y Ganolfan Chwaraeon. Er mwyn manteisio ar y cynnig arbennig hwn, cysylltwch â Diane ar 01970 62 1500 neu anfonwch ebost at sports@aber.ac.uk er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

Canolfan Chwaraeon

Canolfan ChwaraeonMae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau i wella ffitrwydd a lles ei haelodau.

Aelodaeth

AelodaethMae’r Ganolfan Chwaraeon yn cynnig aelodaeth am bris llai i staff, a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan mewn amrywiaeth anferth o weithgareddau.

Dosbarthiadau

DosbarthiadauMae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ar gael ac mae’r amserlen wedi’i llunio er mwyn sicrhau bod cymaint o gyfle â phosibl i staff gymryd rhan mewn dosbarthiadau drwy gydol y dydd, ac yn enwedig amser cinio ac ar ôl gwaith.

Pwll

PwllCafodd y pwll ei adnewyddu yn ddiweddar, ac fel arfer mae ar gael ar gyfer defnydd cyffredinol drwy gydol y dydd o 7.30am tan 9.15pm. Mae dosbarthiadau ar gael hefyd gan staff y Ganolfan, sydd wedi cael hyfforddiant llawn.

Ymlacio

YmlacioBeth am ymlacio mewn sawna Nordig ar ôl diwrnod hir?

Campfa

CampfaMae’r System Wellness, sef pecyn meddalwedd ffitrwydd diweddaraf y DU, bellach wedi’i gosod yn y gampfa er mwyn uwchraddio a chefnogi’r cyfleuster hynod o boblogaidd hwn, sy’n llawn offer Technogym.

Llogi Beic

Llogi BeicCawsom arian grant yn ddiweddar o’r Gronfa Gymunedol i brynu dau feic Trek T10, ac mae croeso i staff eu defnyddio i deithio i gyfarfodydd ar y campws neu i feicio yn ystod eu cyfnodau rhydd.

Hyfforddiant Personol

Hyfforddiant PersonolMae cyngor proffesiynol a rhaglen hyfforddi benodol sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi fel unigolyn ar gael gan hyfforddwyr personol y Ganolfan, a gall hyn eich helpu i gyrraedd eich nod o ran ffitrwydd.