Cefnogaeth o safbwynt Iechyd ac Anabledd

Cyflogwr Hyderus ag Anableddau

 

Mae Prifysgol Aberystwyth a achrediad fel cyflogwr hyderus ag anableddau ers 2016 ac chyn hynny a achrediad gan Tic Ddwbwl – yn bositif am bobl sydd ag anableddau, ers 2003.

Mae’r symbol yn dangos y cydnabyddiaeth a roddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynnau ar gyfer sefydliadau sy’n ymroddedig I ymarfer da wrth cyflogi pobol sydd ag anableddau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.gov.uk/guidance/disability-confident-how-to-sign-up-to-the-employer-schemeAm ragor o fanylion cysylltwch â equality@aber.ac.uk.

Mynediad i Waith

Mae’r cynllun Mynediad i Waith yn cynnig cyllid i helpu i gefnogi aelodau o staff sydd ag anableddau neu gyflyrau meddygol. Am ragor o gefnogaeth cysylltwch â  equality@aber.ac.uk.

Dyma ddau ddyfyniad gan aelodau o staff sydd wedi cael cefnogaeth yn sgil y cynllun.

“Rwyf wedi bod yn cael cymorth ariannol gan Mynediad i Waith ers dros ddegawd bellach. Maent yn rhoi cyllid imi er mwyn prynu offer y byddwn yn cael trafferth eu fforddio fel arall, ac y byddai’n amhosibl imi wneud fy ngwaith hebddynt. Yn sgil y cynllun hwn rwyf wedi cael systemau teledu cylch cyfyng, cynorthwywyr digidol personol sy’n siarad, syntheseisyddion llais symudol, sganwyr a meddalwedd adnabod nodau optegol, yn ogystal â meddalwedd arbenigol ar gyfer ffôn symudol a chyfrifiadur personol.”

“Mae cael salwch sy’n gadael anabledd parhaol ar ei ôl yn gyfnod pryderus ym mywyd unrhyw un. Roedd y gefnogaeth a gefais gan yr Adran Adnoddau Dynol yn gyflym, yn effeithiol ac yn wych. Wedi cael ffurflen mynediad i waith gan y Ganolfan Byd Gwaith, archebodd AD yr offer yr oedd arnaf eu hangen ar ddydd Gwener ac fe gyraeddasant y dydd Mercher canlynol.”

Iechyd Galwedigaethol

Diben ein gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi’r Brifysgol a’i staff drwy ddarparu mynediad i ymarferydd Iechyd Galwedigaethol proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi, gan alluogi unigolion a’r Brifysgol i weithio ynghyd i ymdrin â phryderon iechyd penodol a chanfod mathau addas o gefnogaeth ac unrhyw addasiadau y mae gofyn amdanynt.

Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Tim adnoddau cywir i'ch adran chi.

Iechyd a Lles

Mae’r polisi hwn yn rhan o drefniadau polisi Iechyd a Diogelwch cyffredinol y Brifysgol, ac mae’n cyfrannu hefyd at hyrwyddo iechyd da. Mae’n cwmpasu materion megis straen, ysmygu, alcohol a chyffuriau, maeth a gweithgarwch corfforol. Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Tim adnoddau cywir i'ch adran chi.

Profion Llygaid am Ddim

Mae’r Brifysgol yn gwneud darpariaeth i gyfrannu at gost profion llygaid i weithwyr sydd yn defnyddio cyfarpar sgrin arddangos yn gyson fel rhan hanfodol o’u gwaith, a hynny am ran sylweddol o’u horiau gwaith arferol. Yr uchafswm y gellir ei hawlio am brawf llygaid yw £30.00. Os bydd y prawf llygaid yn dangos bod angen lensys i gywiro’r broblem ar gyfer gwaith sgrin, bydd y Brifysgol yn cyfrannu hyd at £75.00 yn rhagor at gost sbectol. Am ragor o fanylion cysylltwch â supplier-payments@aber.ac.uk.

Fforwm Hygyrchedd

Mae’r Fforwm Hygyrchedd yn grŵp ymgynghorol o staff a myfyrwyr sy’n hyrwyddo ac yn ymwneud â materion ynghylch cydraddoldeb anabledd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i gyfarfodydd y Fforwm, cysylltwch â equality@aber.ac.uk.

Datganiad ar Iechyd

Os hoffech ddatgan cyflwr iechyd neu anabledd tymor hir, cysylltwch â ni fel y gallwn ystyried ffyrdd o’ch cefnogi ac adolygu unrhyw addasiadau i’ch man gwaith. Am ragor o gefnogaeth cysylltwch â equality@aber.ac.uk.

Datganiad ar Iechyd