Cefnogaeth yn y Gwaith
Mentora/Hyfforddi
Gan fod y Brifysgol yn gyflogwr mawr ac amrywiol, gall gynnig cyfleoedd gwych i fanteisio ar gefnogaeth drwy gyfrwng mentora a hyfforddi. Beth am gysylltu ag aelod o’r tîm AD i drafod eich anghenion penodol ac i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael? Am ragor o fanylion cysylltwch â Giles Polglase ar 2386 neu gop@aber.ac.uk neu â Liz Davies ar 2850 neu ldd@aber.ac.uk.
Cynllun Mentora Cymraeg
Os ydych yn dysgu Cymraeg, neu wedi dysgu Cymraeg yn y gorffennol, a bod arnoch eisiau cyfle i ymarfer yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu gyda siaradwr Cymraeg rhugl ar sail un-i-un anffurfiol, mae Cynllun Mentora Dysgwyr y Brifysgol ar gael i bob aelod o staff sy’n dysgu Cymraeg (boed chi’n mynd i wersi ar hyn o bryd ai peidio) a siaradwyr Cymraeg. Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenno Piette ar 2044 neu gws@aber.ac.uk.
Cwnsela
Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaethau cwnsela allanol sy’n cynnig ffordd gwbl gyfrinachol i staff gael gafael ar gefnogaeth ar amrywiaeth o faterion. Gall y sesiynau hyn gynorthwyo unigolion i archwilio problemau neu rwystrau a rhoi cefnogaeth i ganfod ffyrdd o newid ac i daflu goleuni ar y mater. Nod y gwasanaeth yw trefnu cyfarfod cychwynnol â chwnselydd er mwyn asesu eich anghenion fel unigolyn. Os bydd cwnsela’n cael ei argymell, trefnir rhagor o apwyntiadau. Bydd yr adran AD yn cyfeirio pobl yn gwbl gyfrinachol. Am ragor o fanylion neu i gael eich cyfeirio cysylltwch â Sam Davies ar 2054 neu smd@aber.ac.uk neu â Liz Davies ar 2850 neu ldd@aber.ac.uk.
Cyfryngu
Mae’r Brifysgol yn cynnig cyfle i unrhyw aelod o’r staff sy’n profi gwrthdaro neu anghydfod o unrhyw fath yn y Brifysgol i gymryd rhan mewn deialog adeiladol a chyfrinachol gyda chefnogaeth aelod o’r tîm cyfryngu. Mae’r tîm yn cynnwys aelodau o’r staff o bob rhan o’r Brifysgol, sydd wedi derbyn hyfforddiant gan ACAS ar Gyfryngu Mewnol yn y Gweithle. Mae’r sesiynau yn wirfoddol ac yn gwbl gyfrinachol. Am fanylion pellach cysylltwch â’r Cyfryngwr a’r Cydlynydd Cyfryngu, Graham Lewis ar estyniad 1802 (01970 621802) neu mediation@aber.ac.uk.
Cynllun Cydraddoldeb
Nod y Cynllun Cydraddoldeb yw dangos bod cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth graidd amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae urddas, parch a chydweithredu yn rhan hanfodol o’n holl weithgareddau, ynghyd â chefnogi cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial i’r eithaf. Mae’r cynllun yn cynnwys hil, anabledd a rhywedd ac yn ymgorffori oed, crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Olymbia Petrou ar 8598 neu opp@aber.ac.uk.
Polisïau Urddas a Pharch yn y Gweithle ac Iechyd a Lles
Datblygwyd y polisïau hyn ar y cyd â’n Hundebau Llafur cydnabyddedig er mwyn sefydlu safon a chod ymddygiad cytûn i bawb yn y Brifysgol fel gweithle. Cynlluniwyd y polisi Urddas a Pharch yn y Gweithle i alluogi unigolion i sylweddoli beth yw ymddygiad negyddol ac i ymdrin â’r sefyllfa yn adeiladol. Yn yr un modd, datblygwyd y Polisi Iechyd a Lles i ganfod materion a allai effeithio ar les staff yn y gweithle (gan gynnwys straen, cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith, maeth ac ymarfer) ac i lunio atebion posibl i’r materion hyn.