Cefnogaeth o safbwynt Gofal Plant
Talebau Gofal Plant
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu cynllun talebau gofal plant a fydd yn eich helpu i arbed arian o safbwynt cost gofal plant. Am ragor o fanylion cysylltwch â Rhodri Evans ar 2031 neu rje11@aber.ac.uk.
Glenview & Meithrinfa Plas Gogerddan
Mae meithrinfa Glenview yn cynnig awyrgylch cynnes a chyfeillgar gyda digonedd o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau chwarae creadigol ac addysgol. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Eleri Morris, Rheolwraig Gofal Plant, ar 01970 623325 neu elm@aber.ac.uk.
Mae Meithrinfa Plas Gogerddan ar Gampws Gogerddan hefyd yn derbyn babanod o 3 mis oed ac mae ar agor o 8a.m. tan 6p.m. o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Dewisiadau Eraill
Mae sawl meithrinfa arall yn Aberystwyth yn ogystal â gofalwyr cofrestredig. Os hoffech rhagor o wybodaeth ewch i Wasanaeth Gwybodaeth Ceredigion Arlein (CIS) Chwilio Gofal Plant.
Clybiau ’Rôl Ysgol a Gweithgareddau yn ystod y Gwyliau
Mae clwb ar ôl oriau ysgol y Brifysgol yn cael ei gynnal drwy gydol y tymhorau ysgol a’r nod yw sicrhau bod darpariaeth ar gael adeg darlithoedd a seminarau sy’n cael eu cynnal wedi 3.30pm. Cynhelir y Clwb ’Rôl Ysgol yn Ysgol Plascrug. Os yw eich plentyn yn mynd i Ysgol Plascrug neu’r Ysgol Gymraeg mae’r Clwb ’Rôl Ysgol yn darparu gwasanaeth ‘ar droed’ er mwyn casglu eich plentyn o’r ysgol a’i gerdded i’r Clwb ’Rôl Ysgol. Am ragor o fanylion cysylltwch â Mrs Eleri Morris, Rheolwraig Gofal Plant, ar 01970 623325 neu elm@aber.ac.uk.
Gweithio’n Hyblyg
Mae gan PA amrywiaeth o bolisïau i alluogi aelodau o staff i fwynhau gwell cydbwysedd rhwng anghenion gwaith ac anghenion personol, e.e. Polisi Gweithio’n Hyblyg ac amrywiaeth o bolisïau Absenoldeb, e.e. Polisi Mabwysiadu, Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Rhiant a’r Polisi Absenoldeb Arbennig. Mae’r polisïau hyn a’r ffurflenni ar eu cyfer ar gael ar y tudalennau Telerau ac Amodau ar y wefan AD.