Cefnogaeth o safbwynt Hyfforddiant a Chymwysterau
Datblygu Staff
Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (CDSYA) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i staff i’w galluogi i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dulliau o weithio er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau proffesiynol. Mae’r cyrsiau DPP ar gael am ddim i staff PA. Mae’n bosibl hefyd y gall CDSYA gynnig cyrsiau sydd wedi’u teilwra’n arbennig ac mae hefyd yn rheoli eithriadau rhag talu ffioedd i aelodau o staff y mae arnynt eisiau astudio am radd (ar lefel israddedig neu uwchraddedig). Am ragor o fanylion cysylltwch â Giles Polglase ar 2386 neu gop@aber.ac.uk.
E-Ddysgu am Amrywioldeb
Yn ein hymdrechion i barhau i hyrwyddo egwyddorion a gwerthoedd cydraddoldeb ac amrywioldeb, mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu hyfforddiant e-ddysgu amrywioldeb dwyieithog gorfodol i bob aelod o staff. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i’n staff er mwyn eu cefnogi yn eu swyddi, ac mae’n cynnwys modiwlau ar bob agwedd ar gydraddoldeb, gwybodaeth gyfreithiol a pholisi, ac erthyglau newyddion. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Olymbia Petrou ar 8598 neu opp@aber.ac.uk.
Cyrsiau Eraill am Ddim neu am Bris Llai
Mae cyrsiau ar gael hefyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, megis hyfforddiant Microsoft Office (Word, Excel, Powerpoint), cyflwyniad i Blackboard, ayyb a Dysgu Gydol Oes sy’n cynnig amrywiaeth o dystysgrifau a meysydd pwnc, megis Celf a Dylunio, Gwyddoniaeth, Dyniaethau, Gwyddor Gymdeithasol, Ieithoedd Modern a Chymraeg.