Gwybodaeth am yr Adran
Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu mewn safle unigryw i ddarparu cyfleoedd addysg ac ymchwil o safon uchel i fyfyrwyr a ddaw o Gymru, Prydain, Ewrop a thu hwnt. Fel un o'r Adrannau mwyaf, a mwyaf arwyddocaol o'i bath, ei chenhadaeth hanesyddol yw i ateb anghenion ac uchelgeision amrywiol ei haelodau a rhan ddeiliaid.
Mae'r Adran wedi ymroi i gynnal ymchwil dra-blaengar a darparu rhaglenni arloesol ar draws ei disgyblaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r Adran yn ymfalchïo yn ei gallu i ddatblygu a magu ysgolheigion ac arweinwyr diwydiant y dyfodol. Ceir cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol ar draws disgyblaethau'r Adran. Gall myfyrwyr symud o BA i PhD yn y ddwy iaith.
Mae'r Adran yn edrych i gydweithio gyda phartneriaid allanol er mwyn sicrhau parhad perthnasedd ei gwaith o fewn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol ac o fewn y cyd-destun cymdeithasol ehangach.
Mae'r Adran yn ymroi i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion ar gyfer cyflogaeth o fewn economi wybodaeth fyd-eang, yn ogystal â dealltwriaeth o'u rôl fel dinasyddion byd. Mae cyraeddiadau ei graddedigion wedi eu plethu'n dynn â phroffil a bri yr Adran; a caiff yr enw da hwn ei ffurfio drwy waith ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Dilynwch y dolenni canlynol am ragor o wybodaeth: