Gwobr Catrin Prys Jones

Ym mis Gorffennaf 2009 pleser oedd i'r Brifysgol a'r Adran sefydlu gwobr er cof am Dr Catrin Prys Jones cyn aelod staff yn yr Adran Astudiaethau Ffilm a Theledu.  Mae'r wobr, a sefydlwyd trwy garedigrwydd teulu Catrin, wedi cael ei ennill yn 2011 gan Nathan Ifans a fydd yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf BA Er Anrhydedd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Achlysur i gofio Catrin, Gorffennaf 2009

Yn y llun (ch-dd): Elen Pickavance (Chwaer Catrin); Catrin Hughes (Cofrestrydd y Coleg); Valmai Jones (Mam Catrin); Ffion Haf Jones (enillydd y wobr); Elan Closs Stephens (arolygydd Catrin); John Bryn Jones (Tad Catrin), Glen Creeber (partner Catrin).

Yn y llun (ch-dd): Gwyneth Burrell (Modryb Catrin); Glen Creeber; Elen Pickavance (Chwaer Catrin); Valmai Jones (Mam Catrin); Ffion Hâf Jones (Enillydd y wobr); John Bryn Jones (Tad Catrin).

Yn 2006, ysgrifenodd Yr Athro Elan Closs Stephens y deyrnged hon i Catrin:

Gofynnwyd i mi, ar ran cydweithwyr a myfyrwyr, i gofnodi marwolaeth ein cydweithiwr, Catrin Prys Jones. Cawsom ein syfrdanu a'n tristáu'n rhyfeddol gan ei marw ymhell cyn pryd a hithau ond deg ar hugain oed. Yr oeddwn i fy hun yn arbennig o drist oherwydd mai fy myfyriwr i oedd hi wrth iddi astudio am ei gradd PhD yn ei blynyddoedd cynnar yn yr Adran.

Dois i adnabod Catrin i ddechrau fel myfyriwr israddedig hynod o alluog, a oedd wastad yn heriol a bob amser yn ddigon styfnig i fynd i'r afael â syniadau hunanfodlon. Roedd hi hefyd yn ddoniol, yn ffraeth, yn hardd iawn, yn deyrngar i gyfeillion a chydweithwyr ac yn anhygoel o ffyddlon i Glwb Pêl-droed Lerpwl. Nid oedd amheuaeth yn y byd am ei gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, ac roedd ganddi'r gallu i gyfathrebu ac i herio'n feirniadol ar lefel uchel iawn yn y ddwy iaith a ddefnyddir yn yr Adran.

Bydd myfyrwyr yr Adran yn ei hadnabod trwy ei gwaith gyda myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg ar Theatr Ewrop ac ar ddatgymalu cynhyrchiadau. Yr oedd hefyd yn Ddarlithydd ym maes Drama Teledu. O fewn i'r maes hwn, lle roedd ei phroffil yn y DU yn tyfu o fewn i'r gymuned cyfryngau, cwblhaodd ei PhD ar waith Dennis Potter, cyfrannodd i'r cyfrolau Fifty Key Television Programmes a Tele-Vision a Tele-Visual gyhoeddwyd gan y BFI, a olygwyd gan ei chymar, Glen Creeber, ac a ddefnyddir yn helaeth gan ein hisraddedigion ni ac mewn Adrannau Cyfryngau mewn prifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Cyfrannodd hefyd i'r gwerslyfr arfaethedig ar gyfer myfyrwyr cyfrwng-Cymraeg a fydd bellach yn waith ôl-argraffiedig.

Roedd Catrin yn berffeithydd. Roedd ei gofal yn fawr am ansawdd ei darlithoedd a'i seminarau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ni allodd gyrraedd ei safonau uchel ei hun oherwydd cymhlethdod ei salwch ac fe ddioddefodd hi yn fwy na neb yn sgìl hyn.

Cydymdeimlwn yn ddwys â'i rhieni, John a Valmai, ei chwaer, Elen, a'i gŵr Rowan, ac yn enwedig â'n cydweithiwr, Glen Creeber, sef cymar Catrin.

Elan Closs Stephens