Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth

Mae’r rhan fwyaf o fusnesau a sefydliadau yn tueddi i feddwl am brifysgolion fel sefydliadau academaidd sydd wedi’u hysgaru oddi wrth y byd diwydiannol. Rydym yn ymfalchïo, wrth gwrs, yn ansawdd yr addysgu, dysgu ac ymchwilio yn ein hadran - ond rydym hefyd yn ymwybodol o rôl gynyddol prifysgolion fel pwerdai sy’n gallu cydweithio mewn partneriaeth â diwydiant er budd y naill a’r llall.

Fel un o’r adrannau prifysgol mwyaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig, rydym yn awyddus i gydweithio’n agos â’n partneriaid mewn diwydiant ac i gyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. I ni, mae diwydiant yn golygu’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol - theatr a’r celfyddydau perfformio, cynhyrchu ffilm a fideo, darlledu teledu a radio, gweithgareddau ar-lein, a pholisi'r celfyddydau a’r cyfryngau. Mae gan yr adran amrywiaeth o gyfleusterau, adnoddau ac arbenigedd yn y meysydd hyn, gan gynnwys cynllunio gweithiau theatr, senograffi, hyfforddiant llais ac actio, cyfarwyddo ar lwyfan ac mewn stiwdio deledu, golygu fideo a sain, gwaith camera a rheoleiddio darlledu. 

Bydd modd i chi ddarllen rhagor am ein gwaith ar y tudalennau hyn, neu yn ein llyfryn ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ (sydd ar gael fel PDF yma). 

Rydym hefyd yn awyddus i glywed oddi wrthych chi; os ydych yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt - i gwmni cyhoeddus neu breifat, i sefydliad nid-er-elw, corfforaeth neu sefydliad cyhoeddus - neu os ydych chi’n unigolyn yn gweithio yn y diwydiant, cysylltwch â ni. Ein nod yw meithrin cysylltiadau agosach rhwng yr Adran a’r gymuned fusnes, ac i gynyddu arloesi a dealltwriaeth yn ein maes.

Llyfryn Gweithio Mewn Partneriaeth