Cyfleusterau

Mae’r Adran yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau proffesiynol, sydd oll ar gael i’w llogi. Am fanylion pellach, cysylltwch â ni:

 

  • Tair stiwdio sy’n llawn offer, ac sydd â seddi i tua 100 o bobl ym mhob un; mae’r ddwy fwyaf tua 16x16m, a’r drydedd yn 13x9m
  • Mae’r tair stiwdio yn cynnwys rigiau goleuo digidol â lleiafswm o 72 o bylyddion 2.5kw a reolir drwy gonsolau ETC Congo a Strand Lighting, systemau PA Yamaha a Soundcraft, systemau Clyweledol Sanyo a Strand Lighting
  • Mae ein prif ofod perfformio yn cynnwys Yamaha M7 (ES) ac ystod lawn o offer PA Nexo yn cynnwys 8 x PS10, 2 x RS18 a 2 x NXAMP. Mae hefyd yn cynnwys grid ‘trampolîn’ ac adnoddau theatr llawn
  • Tair stiwdio ymarfer, pob un â llawr sbringiau ac adnoddau Clyweledol
  • Adnoddau gwisgoedd a wardrob
  • Oriel a stiwdio deledu ddigidol manylder uwch/HD
  • 36 o ystafelloedd golygu digidol a manylder uwch a mwy na 40 o gamerâu digidol manylder uwch sydd i safon y diwydiant
  • Stiwdio sain ddigidol sydd ag adnoddau recordio amldrac uwch Logic Pro, 12 GB Mac Pro a Yamaha O1V
  • Mae’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio yn ganolfan ymchwil ryngwladol o fewn yr adran, sy’n dal cyfres unigryw o gasgliadau o gyhoeddiadau a deunyddiau clyweledol ar theatr a pherfformio byd-eang
  • Yn agos o ran lleoliad ac yn cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell adnau hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, ac sy’n cynnwys adnoddau arbenigol Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
  • Mae cyfleusterau pellach ar gael drwy ein partneriaethau â chwmni Boomerang PLC, sef cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf Cymru; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (sydd wedi’i lleoli ger yr adran ar Gampws Penglais); a Theatr Arad Goch, sefydliad theatr yn Aberystwyth sydd wedi elwa o fuddsoddiad sylweddol yn ddiweddar. Mae swyddfeydd a stiwdios BBC Cymru yn y canolbarth hefyd wedi’u lleoli yn Adeilad Parry Williams yr adran.