Gwasanaethau Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Busnesau

Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth

Mae gan y Brifysgol swyddfa sy’n ymroddedig i helpu busnesau a sefydliadau eraill sydd am wybod mwy am y cyfoeth o arbenigedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â chynnig cyngor a chefnogi mentrau cydweithredol, mae’r Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori hefyd yn rhedeg Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyfleoedd rheolaidd i fusnesau a’r proffesiynau i gyfarfod â staff academaidd a masnachol. 

Unedau Busnesau Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mae rhai o’n cwmnïau deillio yn elwa o fod wedi’u lleoli yn yr Unedau Busnesau Creadigol arobryn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a ddyluniwyd gan Thomas Heatherwick. Mae’r unedau ar gael i artistiaid a busnesau celf, ac mae cystadleuaeth yn cael ei rhedeg bob blwyddyn i ennill blwyddyn ddi-rent yn un o’r unedau.