Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae’r Adran yn datblygu rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd wedi’i hanelu at bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Ymysg y meysydd sydd o ddiddordeb i ni mae sgiliau theatr technegol, actio a chyfarwyddo, golygu a chyfarwyddo teledu, ac agweddau ar bolisi a rheoleiddio’r celfyddydau a darlledu. 

Os hoffech drafod y posibilrwydd o gael hyfforddiant wedi’i deilwra ar eich cyfer, cyrsiau diweddaru ar gyfer grwpiau neu gyfleoedd DPP eraill, cysylltwch â ni. 

Dyma rai enghreifftiau o’n darpariaeth DPP cyfredol:

Arweinyddiaeth ar gyfer Busnesau Creadigol

Datblygwyd y cwrs hwn gyda chefnogaeth Academi+ Skillset, a’i nod yw cynnig cyfle i 15 rheolwr cwmni o brif gyflogwyr y sector yng Nghymru i ehangu a datblygu eu sgiliau arwain creadigol ac i drafod blaenoriaethau’r dydd a’r dyfodol gyda mentoriaid ac arweinwyr o fyd busnes rhyngwladol. Cafodd y rhaglen hon, sy’n gyfres o 4 seminar undydd, ei chynllunio i osod y cyfranogwyr mewn amgylchfyd o wybodaeth, sgiliau, cyd-destun a chynnwys y gellid ei ddefnyddio yn eu cwmnïau eu hunain. Hoffai’r Adran ddatblygu cyrsiau o’r fath yn y dyfodol; cysylltwch â ni os hoffech gael gwybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau.