Gweithio gyda’n Staff

Arbenigedd ac Ymgynghoriaeth

Gyda mwy na 60 o aelodau o staff, gall yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gynnig ystod eang o arbenigedd ar amrywiaeth o bynciau. Mae rhestr lawn o staff a’u diddordebau ymchwil ar gael ar ein gwefan, neu cysylltwch â Dr Rebecca Edwards.

Rheoleiddio Darlledu

Yr Uwch ddarlithydd, Elin Haf Gruffydd Jones, sy’n arwain yr Uned Monitro ac Ymchwil i Gydymffurfiaeth Darlledu sydd, mewn cydweithrediad â Sefydliad Thomson a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn monitro allbwn S4C yn ddyddiol am unrhyw dorri posibl ar reoliadau darlledu. Dyfernir y contract monitro gan S4C fel rhan o broses dendro agored.

Hyfforddiant Llais

A hithau’n un o gymrodyr dysgu'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, caiff Joan Mills ei chydnabod fel un o diwtoriaid llais mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig. Mae ganddi 20 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Gŵyl Ryngwladol y Llais ac mae wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd llais i nifer o sefydliadau.