Canolfannau Ymchwil Adrannol
Mae’r Adran yn gartref i ddau sefydliad ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol – sef y Ganolfan Ymchwil i Berfformio a Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant.
Y Ganolfan Ymchwil i Berfformio
Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil i Berfformio yn 1988 i ddatblygu a gwella gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion y theatr yn ei ystyr ehangaf. Mae ei rhaglenni gwaith yn cyfuno cydweithredu, cydweithio a chyfnewid diwylliannol, hyfforddiant ymarferol, addysg ac ymchwil, perfformio, cynhyrchu a hyrwyddo, dogfennau a chyhoeddi, gwybodaeth ac adnoddau.
Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant
Cafodd Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ei sefydlu er mwyn casglu, storio, dadansoddi a dosbarthu gwybodaeth drwy rwydwaith dogfennaeth a gwybodaeth ar gyfer ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n arwain nifer o rwydweithiau a phrosiectau Ewropeaidd a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau celfyddydol ledled Ewrop (gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, a’r Cyngor Prydeinig). Mae ei bartneriaid yn cynnwys sefydliadau academaidd, busnesau bach a chanolig a sefydliadau cyhoeddus mewn dros 30 o wledydd.