Gweithio gyda’n Myfyrwyr

Modiwl Lleoliad Gwaith

Yn 2010 fe wnaeth yr adran redeg peilot o fodiwl lleoliad gwaith i israddedigion yn astudio cynhyrchu cyfryngau fel rhan o’u gradd; o 2011 ymlaen, bydd y modiwl yn rhan o astudiaethau pob myfyriwr ail flwyddyn sy’n astudio tuag at BA mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu. 

Bydd myfyrwyr yn gweithio am hyd at dair wythnos ar leoliad gwaith y maent wedi dod o hyd iddo eu hunain gyda chymorth yr adran. 

Mae’r modiwl yn rhan o ymrwymiad parhaus yr adran i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr. Elfen sydd cyn bwysiced yw ymateb y myfyrwyr a gymerodd ran yn y peilot, pob un ohonynt yn teimlo ei fod yn un o’r profiadau mwyaf cadarnhaol y maent wedi’i gael yn y brifysgol. Os hoffech gael gwybodaeth bellach am sut i gynnig lleoliad gwaith i fyfyriwr, cysylltwch â Dr Rebecca Edwards.


Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr - Canllaw i Gyflogwyr