Gweithio Gyda Ni
Rydym yn gweithio mewn sawl ffordd gwahanol gyda’n partneriaid, sy’n cynnwys cwmnïau cynhyrchu annibynnol, darlledwyr, rheoleiddwyr darlledu, cwmnïau theatr gan gynnwys cydweithfeydd artistiaid. Ffurfiwyd partneriaeth strategol gyda chwmni cynhyrchu Boomarang+ yn 2008, sydd wedi arwain at fanteision i’r ddau sefydliad, gan gynnwys prosiect ymchwil mawr, mynediad i adnoddau a nifer o gyfleoedd am leoliadau gwaith i’n myfyrwyr israddedig.
Rydym yn croesawu ymholiadau oddi wrth gwmnïau preifat, corfforaethau a sefydliadau cyhoeddus, cwmnïau theatr, sefydliadau nid-er-elw ac unigolion sy’n ystyried gweithio gyda ni.