2009
Dr Jamie Medhurst yn ennill grant Rhwydweithio Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gwerth bron £34,000.
Mae’r rhwydwaith rhyngwladol hwn, o’r enw 'British quality, American chaos? Transnational discourses and interactions in the history of British and North American broadcasting, c.1922-1962' yn dod ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac archifwyr at ei gilydd o wledydd Prydain, gogledd America a’r tu hwnt. Y Dr. Hugh Chignell o Ysgol y Cyfryngau Prifysgol Bournemouth yw’r Cyd-Archwiliwr.
Ffilm gan Ddarlithydd ThFfTh, John Burgan, yn cael ei dangos yn Southbank y BFI
Ym mis Hydref cafodd 'Memory Of Berlin' (1998) ei dangos gan Sefydliad Ffilm Prydain yn Llundain, ffilm a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Ddarlithydd yr Adran ThFfTh John Burgan. Dangosir y ffilm hefyd ym Merlin yn ystod ym mis Tachwedd i gyd-fynd ag ugeinfed pen-blwydd cwymp y Mur. Os na allwch fynd i Lundain na Berlin, bydd cyfle i’w gweld yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth am 8.15 yr hwyr ar 24 Tachwedd. Cyn sgrinio’r ffilm honno, dangosir ffilm fer a wnaed gan uwchraddedigion yn yr Adran, Ywain Tomos ac Irene Asimenou, sy’n portreadu Aberystwyth, sef 'New Life at the End of the Line', a wnaed fel rhan o’u MA mewn Astudiaethau Ffilm. Am ragor o wybodaeth gweler http://www.aberystwythartscentre.co.uk/whatson/cinema/info/8055/
Ymunodd John â’r Adran ym mis Hydref 2008, ac mae newydd gwblhau “Power and Place”, ffilm fer ar ynni cynaliadwy. Cafwyd rhagolwg ar y ffilm eisoes yr haf yma yn Washington DC fel rhan o ddigwyddiad nodedig Wales Smithsonian Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o waith cydweithredol parhaol rhwng yr Adran ThFfTh a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.
Yr Adran yn Cofio Catrin

Ar 13 Gorffennaf 2009, croesawodd yr Adran deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Dr Catrin Prys i ddigwyddiad i nodi sefydlu gwobr er cof am Catrin a fuodd farw yn 2006. Sefydlwyd y wobr am y tro cyntaf eleni i fyfyriwr yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn dilyn gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, a gafodd y marc cyfartaledd uchelaf am ei gradd. Enillydd Gwobr 2009 oedd Ffion Hâf Jones o Sir Fôn (fel oedd Catrin ei hun) a enillodd radd Dosbarth Gyntaf ag Anrhydedd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr. Bydd yr Adran yn enwebu enillydd Gwobr Catrin Prys Jones yn flynyddol.
Bydd enillwyr blynyddol y wobr yn cael eu cyhoeddi ar dudalen gwe Gwobr Catrin Prys Jones.
MA Practising Performance - Llwyfan Perfformio 2009
Perfformiadau gan : Sian Adam, Cara Brostrom, Sinead Cormack, Glesni Mair Edwards, Sarah Guice, Simone Kenyon, Caroline Melia, Shannon Roszell, Naomi Turner
18 + 19 Medi
http://mapractisingperformance.blogspot.com/
Mynediad am ddim. Nifer cyfyngedig o le sydd ar gael yn y gynulleidfa. Archebwch o flaen llaw: http://tftvbookings.aber.ac.uk/
Cyn-fyfyriwr MA Sgriptio ar restr fer cystadleuaeth arobryn
Mae Matt Ruckwood, a raddiodd eleni, wedi cael lle ymysg 10 arall yn unig ar restr fer Gwobr Sir Peter Ustinov ar gyfer Sgriptio Teledu. Dyluniwyd y gystadleuaeth er mwyn annog sgriptwyr newydd dan 30 sy'n dod o'r tu allan i'r UDA. Maent yn ceisio cynnig cydnabyddiaeth ac annogaeth fydd efallai'n gallu arwain at yrfa lwyddiannus ym myd sgriptio teledu. Gofynnir i gystadleuwyr gwblhau sgript ddrama deledu Saesneg rhwng hanner awr ac awr o hyd, ar gyfer cynulleidfa deuluol.
Mae sgript Matt, "The Permanent Way" yn ddrama drosedd Fictorianaidd wedi'i gosod yn Llundain ar gefndir y boom rheilffyrdd a ddigwyddad ar y pryd. Bydd ennillwyr yn cael teithio i'r Emmys yn Efrog Newydd ym mis Tachwedd i dderbyn eu gwobr.
Llongyfarchiadau i Matt, a phob lwc ar gyfer y gystadleuaeth.
Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Huw Eurig Davies, prif weithredwr cwmwni Boomerang+
Ar Ddydd Gwener 17eg Gorffennaf, cyflwynwyd Huw Eurig Davies, prif weithredwr Boomerang+ yn Gymrawd er Anrhydedd gan Dr John Harries. Roedd Mr Davies yn gyd-sefydlydd y cwmni ym 1994. Er hynny mae wedi tyfu Boomerang i fod yn gwmni hynod o lwyddiannus sy'n cyflogi dros 120 o bobol gyda throsiant blynyddol o tua ugain miliwn o bunnoedd.
Mae’r cwmni yn arbennig o nodedig am y cyfleoedd y maent yn eu darparu ar gyfer cymaint o ddoniau creadigol i aros yng Nghymru, gweithio’n ddwyieithog a gallu cystadlu’n rhyngwladol, gyda nifer ohonynt yn raddedigion o’r Brifysgol hon. Dymuna'r Adran gynnig ein llongyfarchiadau ninnau i Mr Davies ar achlysur ei urddo.
Gellir darllen y cyflwyniad llawn a roddwyd gan Dr John Harries ar y dudalen hon.