2010
Prosiect Ymchwil Newydd: Plant, Teledu a’r We
Ar 19 Ebrill 2010, lansiwyd prosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) rhwng yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a Boomerang+, sef cwmni cynhyrchu o Gaerdydd. Boomerang+ yw un o’r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu gwreiddiol i blant, ac mae sefydlu’r KTP yn eu galluogi i fanteisio ar arbenigedd ymchwil Dr. Merris Griffiths, arbenigwraig ym maes cyfryngau plant.
Bydd Dr. Griffiths yn gweithredu fel Arolygwr Academaidd ar gyfer y prosiect, ar y cyd ag Arolygwr y Cwmni, Angharad Garlick. Penodwyd Helen Davies fel Cydymaith Ymchwil a bydd hi’n gyfrifol am weithio gyda phlant ledled Cymru i lunio data grŵp ffocws, a chymhwyso’r darganfyddiadau i arferion cynhyrchu’r cwmni.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar arferion a dewisiadau cyfryngau plant rhwng 7 ac 11 oed, gyda phwyslais ar y modd y maent yn defnyddio’r teledu a’r rhyngrwyd. Bydd y gwaith hwn yn cyd-daro â lansiad gwasanaeth newydd y cwmni i S4C, sef cyflwyno rhaglenni gwreiddiol i blant rhwng 7 a 13 oed.
Caiff y prosiect ei ariannu am ddwy flynedd, gyda grant sy’n werth dros £82,000, gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg.
Darllenwch y datganiad swyddogol i’r wasg yma: http://www.aber.ac.uk/aberonline/cy/archive/2009/11/au16109/
Jill Greenhalgh wedi ennill grant £20,000 gan Cyngor Celfyddydau Cymru
Bydd Jill yn cynhyrchu perfformiad o’r enw 'The Threat of Silence'. Bydd y gwaith newydd hwn yn rhan o’i hymchwil bresennol ar Dawelwch mewn Perfformiadau, gan geisio datblygu ffurf sy’n mynd ati’n fwriadol i gofleidio grym distawrwydd, llonyddwch a thawelwch drwy ymchwilio i strategaethau dynamig, a’u rhoi ar waith, i symud y tu hwnt i’r ansymudol neu’r gorsyml wrth ddefnyddio amser estynedig. Bydd y gwaith yn gofyn sut y gallai elfennau perfformiadau – lle, technoleg, testun, gweithredwch a sain – gael eu ffurfio i greu amser a hafan rhag y tonnau o swn, y wybodaeth ormodol, a’r sothach dihangfaol o fanylion dibwys, sy’n llenwi ein bywydau heddiw hyd syrffed.