2012
Chwe Ysgoloriaeth ‘Mynediad i Feistr’ (MiF): MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol
Gwahoddir ceisiadau am chwe Ysgoloriaeth Meistr un blwyddyn ar gyfer rhaglen MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Cyllidir y rhain drwy’r cynllun Mynediad i Feistr (MiF/ATM) a’u cynnig mewn partneriaeth â chwmnïau creadigol yng Nghymru. Maent yn cynnwys ffioedd dysgu cartref/UE, £5,529 at gostau byw a chyfraniad at dreuliau. Dyma ddisgrifiad cryno o natur yr ysgoloriaethau:
Theatr Arad Goch (Aberystwyth): apelio at a gweithio gyda chynulleidfaeodd theatr ifanc.
Boomerang (Aberystwyth): datblygu presenoldeb teledol/aml-gyfrwng ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
Cwmni Theatr y Frân Wen (Porthaethwy): strategaethau lleoleiddio/lleoliad cynhyrchiad perfformiadol.
Galeri Caernarfon: datblygu ymrwymiad gymunedol a chynulleidfaol Sinema.
Palas Print (Caernarfon): datblygu strategaethau ar gyfer meicro-ddigwyddiadau.
Telesgôp (Abertawe): datblygu presenoldeb teledol/aml-gyfrwng ar gyfer miwsig gwerin.
Cymhwysterau: Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer pob un o’r ysgoloriaethau. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys ar gyfer ffioedd y DG/UE, a chanddynt radd anrhydedd 2:1 (neu’n gyfwerth), a chyfeiriad yn Ardal Gydgyfeirio Cymru: http://wefo.wales.gov.uk/programmes/convergence/areamap/?skip=1&lang=cy
Proses Ceisio:
Mae angen i bob ymgeisydd ennill lle ar y MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol cyn ennill ysgoloriaeth MiF, ond mae modd ceisio amdanynt ar yr un pryd:
1) MA: http://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/howtoapply/before-you-apply/
2) Ysgoloriaeth MiF (ATM): http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/funding/atm/
Manylion pellach: Catrin Davies: 01970 621517/ctd@aber.ac.uk
Dyddiad cau/Closing Date: Dydd Mercher 5ed Medi 2012/Wednesday 5 September 2012
Cyfweliadau/Interviews: Medi 13eg / September 13th
Cyllidir ATM yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd) a weinyddir gan Lywodraeth

Canfyddiad, Derbyniad: Hanes y Cyfryngau mewn Cymdeithas
4-6 Gorffennaf 2012
Mae 4edd Gynhadledd Media History, a gynhelir gan Ganolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Aberystwyth, yn ystyried sut mae pobl wedi deall swyddogaethau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol y cyfryngau o’r 15fed ganrif i’r 21ain mewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd y cyfranwyr yn cynnwys:
Garth Jowett, Prifysgol Houston – Prif Siaradwr
Gabriele Balbi, Laurel Brake, Hans-Frederick Dahl, Michael Harris, Mark Hampton, Aled Jones, Chandrika Kaul, Kate Lacey, Jason McElligott, Darrell Newton, Sean Nixon, Sian Nicholas, Tom O’Malley, Michael Palmer, Mandy Powell, Joad Raymond, Joanne Shattock, Mark Turner a Kevin Williams
Bydd paneli’r gynhadledd yn ymchwilio, o amryw safbwyntiau, i’r mathau o ddealltwriaethau a aeth law yn llaw â datblygiadau’r cyfryngau (yn argraffedig ac electronig fel ei gilydd) drwy amser ac ar draws gwahanol genhedloedd a diwylliannau. Bydd y themâu yn cynnwys: damcaniaethau am y cyfryngau; ymatebion cyfryngau i gyfryngau eraill; darlledu fel cyfrwng ceidwadaeth neu newid; diplomyddiaeth, darbwyllo a’r cyfryngau; rhyfel a’r wasg; y cyfryngau ac addysg; newyddiadurwyr a newyddiaduraeth; canfyddiadau o swyddogaeth y wasg dros amser; y cyfryngau a mudiadau deallusol; a rheoleiddio’r cyfryngau. Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys trafodaethau bord gron a drefnir yn arbennig i ystyried y cyfryngau yn y cyfnodau modern a modern cynnar.
Ceir y rhaglen ddrafft a’r manylion cofrestru ar wefan Canolfan Hanes y Cyfryngau. 6 Mehefin 2012 yw’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.