Darpar Fyfyrwyr

Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn un o'r mwyaf o'i bath ym Mhrydain, a hynny o ran niferoedd staff a myfyrwyr. Mae ganddi adnoddau heb eu hail ac maent yn ymroddedig i gynnig cynllun astudio i chi sy'n cyfuno ystod eang o waith ymarferol yn ogystal â gweithgaredd heriol academaidd.

No Javascript

warningPlease turn on JavaScript.
Media requires JavaScript to play.

Showreel TFTS

Mae'r Adran yn cynnig rhai o'r cyrsiau Addysg Uwch mwyaf radical a phoblogaidd sydd ar gael heddiw. Mae chwyldro wedi bod yn y maesydd hyn yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac mae'r adran hon wedi arwain y ffordd mewn amlygu gwerth astudiaethau creadigol sydd wedi ei danlinellu gan bwyslais cryf ar y berthynas rhwng theori ac ymarfer. Mae defnydd technegau o'r fath yn eang erbyn hyn, gyda nifer cynyddol o faesydd academaidd yn prysur ddysgu am bosibliadau dysgu drwy'r math o weithgareddau sydd wedi bod yn greiddiol i'r adran hon ers sawl blwyddyn bellach.

Rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau gradd

Dilynwch y dolenni canlynol i ddysgu mwy am y cyrsiau cyffrous sydd ar gael yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:

Diwrnodau Agored

Cynhelir tri Diwrnod Agored eleni, ar 7fed o Orffennaf, 16eg o Fedi a 17eg o Hydref.

Am fwy o wybodaeth, ac i archebu lle, rhowch glec ar y ddolen ganlynol: Gwybodaeth am Ddiwrnodau Agored