Ceisiadau a Mynediad (Uwchraddedig)
Rydym wrth ein bodd eich bod yn ystyried dod i Aberystwyth i wneud gwaith ôl-raddedig yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Rydym wedi ymrwymo i gynnig hyfforddiant ac addysg uwchraddedig o safon uchel ar draws ein meysydd pwnc eang, a’r cam cyntaf yn hyn o beth yw’r proses derbyn.
Os oes gennych ymholiad, mae pob croeso ichi gysylltu â ni ar unrhyw adeg yn ystod y proses o wneud cais. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol a gwybodaeth bellach ynghylch rhaglen benodol, cysylltwch â Mr Nick Strong ar nbs@aber.ac.uk. Cysylltwch â Nick hefyd i wneud ymholiadau cychwynnol ynghylch astudiaethau doethurol.
Ar gyfer cwestiynau ynghylch proses derbyn y Brifysgol, sut i wneud cais, ffïoedd ac ati, gweler Gwefan Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion y Brifysgol.
Rydym yn derbyn ceisiadau uwchraddedig gydol y flwyddyn gyda dyddiad cau terfynol ar 20fed o Awst ar gyfer ymgeiswyr sydd am ddechrau ym mis Medi yr un flwyddyn. Ond fe ddylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud cais am nawdd gysylltu â ni i gael gwybod am ddyddiadau cau cynharach.