Sut i Wneud Cais – Ymgeiswyr PhD

Os hoffech wneud ymholiad cychwynnol ynghylch gweithio gyda ni fel ymgeisydd MPhil/PhD yn yr adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, anfonwch eich cynnig a nodwch y math o gyllid yr ydych yn bwriadu gwneud cais ar ei gyfer at Mr Nick Strong, nbs@aber.ac.uk.  Dilynwch y 'Canllawiau ar ysgrifennu cynnig PhD ar gyfer Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu' ('Guidance on writing a PhD proposal for TFTS')


Bydd ceisiadau ar gyfer astudiaethau doethurol yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf yn amodol ar ein gallu ni i ddarparu cymorth goruchwylio boddhaol, o ran lefel y pwnc yr ydych yn dymuno gweithio arno, a lefel y dulliau y byddwch yn eu defnyddio ar gyfer hyn. Unwaith y byddwn wedi ystyried eich cynnig, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn eich annog i wneud cais ffurfiol. Dylech nawr gwblhau ‘Ffurflen Gais ar gyfer Rhaglenni Ymchwil’ a’r ffurflenni geirda sydd ar gael gan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion a’u hanfon cyn gynted â phosibl i’r cyfeiriad a welir ar y ffurflen, ynghyd â chopi caled o’ch cynnig.        
Os dymunwch gael eich ystyried ar gyfer unrhyw fath o nawdd (yn enwedig nawdd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), dylech gysylltu â ni ym mis Hydref (neu erbyn Ionawr fan pellaf) am gyngor ac arweiniad ynghylch paratoi cais da. Ceir gwahanol ddyddiadau cau a gweithdrefnau cyflwyno ar gyfer y gwahanol gynlluniau nawdd allanol felly cysylltwch â ni am fanylion. 

            
Gofynion Mynediad


Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn ymdrin â cheisiadau ar gyfer derbyn myfyrwyr i’w holl gynlluniau ar sail unigol a chyfle cyfartal. Mae ein proses o ddethol yn cymryd i ystyriaeth bob agwedd ar y cais. Rydym yn croesawu’n gadarnhaol geisiadau gan bob rhan o’r boblogaeth.   

                
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni gofyniad iaith yr Adran, sef IELTS 7.0 (neu’r hyn sy’n cyfateb iddo). Ceir cefnogaeth ieithyddol gan Ganolfan Iaith a Dysgu’r Brifysgol.


Fel arfer, disgwylir bod gan bob ymgeisydd radd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf (neu’r hyn sy’n cyfateb iddi dramor) neu ddwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr am le PhD sy’n cael ei gyllido radd anrhydedd ail ddosbarth uwch a chymhwyster lefel Meistr neu brofiad proffesiynol perthnasol.


Nodwch mai gofynion mynediad cyffredinol yw’r rhain. Oni nodir fel arall yn y disgrifiad cwrs adrannol perthnasol, fe fydd y gofynion mynediad cyffredinol hyn yn gymwys. Dylech holi a yw’r cwrs y dymunwch wneud cais ar ei gyfer yn gofyn am ofynion mynediad uwch neu ychwanegol.


Dyfarniad Partneriaeth Grant Bloc Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau


Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi dyfarnu Partneriaeth Grant Bloc i’r Brifysgol sy’n golygu bod yr Adran bellach mewn sefyllfa i enwebu myfyrwyr ar gyfer gwobrau Doethurol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ystod y 5 mlynedd nesaf fel a ganlyn:


Drama, Dawns a Chelfyddydau Perfformio (2010)
Astudiaethau Ffilm a Theledu (2013)


Cysylltwch â Ms Kathleen Williams ar ktw@aber.ac.uk am fanylion pellach.