Cyfleoedd PhD / MPhil

Cyfleoedd Presennol

  • : Dadansoddi ac Archwilio Datblygiad Naratifau Clyweledol Aml-blatfform ar gyfer Cynhyrchu Cyfryngau yn yr Economi Ddigidol.   
  • : Strategaethau ar gyfer Cynhyrchu a Dosbarthu Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg.

Astudiaeth Uwchraddedig yn yr Adran

Mae gan yr Adran gymuned fawr a bywiog o fyfyrwyr ymchwil o bob cwr o’r byd sy’n gweithio at gymwysterau doethurol. Mae’r ystod o bynciau a methodoleg a ddefnyddir yn arbennig o eang ac yn cynnwys holl ystod astudiaethau theatr, perfformio, cyfryngau, ffilm a theledu. I gael gwybodaeth bellach ynghylch prosiectau ymchwil cyfredol ein myfyrwyr gweler tudalennau ein myfyrwyr ymchwil presennol

Rhan bwysig o’n darpariaeth ddoethurol yw’r diwylliant ymchwil ehangach y mae’r myfyrwyr yn rhan ohono. Rydym ni’n cynnig rhaglen flynyddol o seminarau ymchwil, siaradwyr a pherfformwyr gwadd, a chynhadledd ymchwil dri diwrnod blynyddol, yn cynnwys yr holl staff ac uwchraddedigion lle cawn rannu syniadau a phroblemau ymchwil. Gall ein myfyrwyr doethurol hefyd fanteisio ar gyfres o ystafelloedd astudio penodol gyda chyfrifiaduron, cyswllt â’r we, swyddfeydd, cyfleusterau argraffu a ffôn. Sefydlwyd hefyd nifer o grwpiau astudio a darllen annibynnol gan ein cymuned bresennol o uwchraddedigion, e.e. y grŵp Astudiaethau Perfformio sy’n cynnal grŵp trafod ar y we a’r grŵp darllen Dadansoddi Disgwrs brwd.

Mae myfyrwyr PhD yr Adran yn derbyn nawdd o nifer o ffynonellau: Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Aberystwyth, elusennau annibynnol, cyflogwyr a mudiadau tramor. Rydym ni’n cynnig cymorth ac arweiniad wrth baratoi ceisiadau ar gyfer sefydliadau o’r fath, ac yn ychwanegu at y cyfleoedd drwy nifer o ysgoloriaethau doethurol Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a ddyfernir i fyfyrwyr eithriadol na fyddai wedi llwyddo i gael nawdd fel arall. Bwriad y rhain yw talu am ffïoedd a chynhaliaeth amser  llawn dros dair blynedd, ac maent wedi eu meincnodi er mwyn sicrhau eu bod yn gyfartal â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Ystyriwn y canlynol yn brif feysydd ein gwaith ymchwil o ran eu cryfder, ac rydym yn awyddus i annog ceisiadau ar gyfer doethuriaethau yn y meysydd hyn:

• Ymchwil Drama a Theatr
• Ymchwil Ffilm a Theledu
• Ymchwil i Berfformio
• Ymchwil Theatr Cymru a’r Cyfryngau

I gael gwybodaeth bellach am aelodau unigol o’r staff gweler ein tudalennau staff, neu ar gyfer prosiectau ymchwil staff heddiw ac yn y gorffennol yn ogystal â gweithgareddau ymchwil yr adran gweler ein tudalennau ymchwil.   Beth am gael golwg ar broffiliau ein cyn-fyfyrwyr ymchwil  a thudalennau prosiectau myfyrwyr ymchwil presennol.

Ceir canllawiau ar sut i wneud cais yn yr adran ‘Sut i Wneud Cais’