Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg

Erbyn heddiw mae Astudiaethau Theatr a Pherfformio ac Astudiaethau Ffilm a Theledu a Chyfryngau ymhlith rhai o’r cyrsiau mwyaf cyffrous a radical ym myd Addysg Uwch. Bu chwyldroadau niferus yn y meysydd hyn yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a gwelwyd pynciau fel Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn arwain y gad o ran hawlio gwerth addysgiadol profiad a sgiliau ymarferol.

Ein cenadwri yma yn Aberystwyth yw cynnig darpariaeth eang o gyrsiau yn yr amrywiol feysydd yr ydym yn arbenigo ynddynt. Mae’r cynlluniau gradd yn flaengar, ac wedi eu gwreiddio yng Nghymru wrth edrych ar waith a dylanwadau o bedwar ban byd, a hynny oll drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir perthynas agos a chydweithio creadigol rhwng y staff a’r myfyrwyr. Croesawn geisiadau ac ymholiadau oddi wrth darpar-fyfyrwyr sy’n awyddus i ymuno â ni.

Ewch i'r dudalen derbyniadau a chyswllt i ddarganfod mwy am sut i wneud cais am le ar un o'r cyrsiau.

Gallwch ddilyn hynt gweithgareddau Cymraeg yr Adran drwy danysgrifio i'n blog newyddion. Ewch draw i weld beth sydd gennym ar y gweill!