Nicky John Harlech
Mae meddwl yn ôl ar fy nghyfnod yn Aber wastad yn rhoi gwên ar fy wyneb. Roeddwn i wrth fy modd ar y cwrs, roedd gen i griw arbennig o ffrindiau, ac roeddem ni gyd yn dod ymlaen yn wych gyda’r darlithwyr hefyd. Daeth un o fy hoff gyfnodau yn ystod y 3ydd blwyddyn – cyfnod hollol hectic rhwng prosiectau ymarferol o ran perfformio, cyfarwyddo, ac ysgrifennu – ond o leia’ roedd hyn yn ein paratoi ar gyfer beth sy’n disgwyl unrhywun sydd am weithio yn y cyfryngau yn y byd ‘go iawn’!
Ychydig o wythnosau ar ôl gadael y Brifysgol, ges i waith gyda chwmni theatr dros yr haf, a chyfle i weithio rhan amser fel cyflwynwraig ar orsaf radio lleol; cyn cael swydd llawn amser gyda chwmni Nant (bellach Rondo Media) ar raglen Sgorio. Bron i 3 mlynedd yn ddiweddarach, dyma lle ydw i o hyd, yn gweithio ar gynyrchiadau o raglen Sgorio a Sgorio Cymru, yn ogystal â rhaglenni pêl droed byw. Yn debyg i’r cwrs yn y Brifysgol, mae’r swydd yn gofyn am lawer o ymroddiad - rydym yn gweithio oriau hir a hwyr, ond dw i wedi cael profiadau bythgofiadwy - gan gyfarfod a gweithio gyda rhai o bêl droedwyr enwoca’r byd, ac wedi cael cyfle i deithio ar draws Ewrop.
Dw i mor falch o’r profiadau ges i yn Aberystwyth – ges i gyfle i ddysgu rhai o’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y diwydiant, ac yn fwy ‘na hynny ges i gyfle i ddod i nabod pobl arbennig ac unigryw fyddai’n aros mewn cysylltiad â nhw ar hyd fy oes. Byswn yn argymell cyfnod yn Aber i unrhyw un felly, ac a dweud y gwir, mi fyswn yn mynd yn ôl fy hun petawn i’n cael hanner cyfle!

Alun Saunders
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 es i hyfforddi fel Actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel Actor ac Awdur Sgriptiau broffesiynol i gwmnïau fel Clwyd Theatr Cymru, Theatr na n'Og, BBC Radio 4, Teledu Apollo, Fiction Factory a Wales Theatre Company.
Cefais amser gwych wrth weithio ar ein prosiectau ymarferol, yn enwedig yn y drydedd flwyddyn, wrth i ni greu gwaith creadigol a gwahanol iawn yn ogystal â chael gweithio'n agos gyda'n ffrindiau ar yr un pryd.
Fe wnes i rai o ffrindiau gorau 'mywyd i yn ystod fy amser yn Aberystwyth - ffrindiau gydol oes sydd dal yn grŵp agos deng mlynedd yn ddiweddarach. Er i'r dre ymddangos yn dawel ar y cychwyn, 'nes i ddarganfod yn fuan iawn fod gan Aberystwyth popeth 'roedd ei hangen am dair blynedd hollol, hollol wych!
Roedd astudio Drama yn Aberystwyth yn brofiad ffantastig. Wrth astudio ystod mor eang o waith y byd theatr cefais sail gadarn i yrfa yn y maes.

Caryl James
Mae 9 mlynedd ers i mi ffarwelio â’r Coleg ger y Lli, ond mae’r atgofion o’m cyfnod yno dal yn glir yn y cof, a llawer o’r hyn a ddysgais wedi trosglwyddo a’i fabwysiadu i’m ffordd o weithio hyd heddiw.
Penderfyniad hawdd a naturiol iawn oedd dewis Aber, ac yn benodol yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu i barhau â’m hastudiaethau. Yr hyn oedd fy atynu fwyaf oedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, cwrs amrywiol a phryfoclyd oedd yn ymdrin â theorïau ac arddulliau arbrofol yn ogystal â hanes a thraddodiad cyfrwng y theatr. Ar ôl cyrraedd, gwelais bod y darlithwyr a thiwtoriaid yn lliwgar ac amyneddgar, a chyd fyfyrwyr yn gynnes, a bellach yn ffrindiau oesol.
Mae gen i amryw atgof o’m cyfnod yn yr adran; o berfformio mewn cynhyrchiad mwy traddodiadol ei ffurf, lle roedd gofyn dwyn ar brofiadau personol o’m plentyndod a’n llencyndod a’u cyfleu mewn ffordd gonest a chrai, i berfformiadau mwy haniaethol ac arbrofol lle fyddai unrhyw beth yn bosib.
Ond y peth amlycaf, heb os, oedd y camaraderie a’r agosatrwydd mae cydweithio mewn amgylchfyd o’r fath yn ei greu. Tu hwnt i’r adran roedd bywyd cymdeithasol Aber a Neuadd Pantycelyn hefyd yn rhyfeddol o bwysig!
O’r Brifysgol es i ‘mlaen i weithio i gwmni teledu Tinopolis, yn bwrw fy mhrentisiaeth fel ymchwilydd ac yna fel cynhyrchydd ar y rhaglen gylchgrawn Wedi 3; daeth fy sgiliau dadansoddi a strwythuro a chanfod stori dda yn amhrisiadwy.
Bellach rwy’n gweithio i gwmni teledu Boomerang+ yng Nghaerdydd fel Cynhyrchydd rhaglenni dogfen ac adloniant, yn ogystal â chydlynu dramâu megis Teulu a’r ffilm theatrig Ryan a Ronnie. Mae’r prosiectau yn amrywiol ac yn parhau i’m cyffroi a’m herio, ac yn caniatáu i mi weithio a dod i gysylltiad a phobol hynod o ddiddorol, talentog a chreadigol.