Ceisiadau a Mynediad
Ymgeisio, Derbyn ac Ymweld
Cymwysterau Academaidd
Mae’r Adran yn croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr, beth bynnag eu cefndir. Ceir cyfle i ymweld â’r Adran yn ystod un o’r Diwrnodau Agored swyddogol, neu ar adeg arall sy’n gyfleus i’r darpar fyfyriwr. Y cynnig arferol i’r sawl sy’n ceisio am radd Anrhydedd Sengl neu Gyfun yw rhwng 240 - 300 o bwyntiau ar lefel Uwch Gyfrannol, TAG Uwch, Lefel A uwch Gyfrannol a Galwedigaethol neu pum clod ac un Teilyngdod mewn Diploma neu Dystysgrif Genedlaethol. Nid oes angen Safon A neu TGAU mewn Drama neu Astudiaethau Ffilm er mwyn cael mynediad i’r Adran. Mae ein Swyddog Derbyniadau yn barod iawn i gynnig cyngor yn ysgrifenedig, dros y ffon, neu drwy e-bost.
Wedi i chi wneud cais drwy Ucas, cewch eich gwahodd i gyfweliad a fydd hefyd yn rhoi cyfle i chi weld yr adnoddau arbennig sydd gennym ar gyfer ein myfyrwyr. Rhydd ymweliad gyfle i chi grwydro drwy’n canolfan, Adeilad Parry-Williams, sy’n cynnwys dwy theatr stiwdio, cyfleusterau ymarfer drama, canolfan ar gyfer creu a golygu fideo, a stiwdio radio rhanbarthol y BBC. Rydym yn falch iawn o ddarparu proses fynediadau personol ac mae ymweliad yn rhoi cyfle i ni i gwrdd â’r darpar fyfyriwr, asesu diddordeb a gallu yn y pwnc, ac i gynnal cyfweliad a all arwain - os yn briodol - at ostyngiad yn y graddau y gofynnir amdanynt yn yr arholiadau terfynol.
Clirio
Fe gwblheir y broses dderbyn ym mis Awst, wedi i’r Brifysgol dderbyn canlyniadau Safon A. Mae’n bosibl y caiff darpar fyfyrwyr eu hystyried ymhellach os nad ydynt yn llwyddo i gyflawni union dermau’r cynnig amodol a wnaed iddynt, ond ni cheir unrhyw benderfyniad terfynol hyd oni chyflawnir y broses dderbyniadau. Hyd yn oed pan na allwn gynnig lle i fyfyrwyr, fe wnawn yr hyn sy’n bosibl i gynorthwyo unigolion i gynllunio’u gyrfaoedd addysgiadol.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw darpar fyfyrwyr, neu unrhyw berson sy’n ffonio ar eu rhan, yn ystyried sgwrs deleffon yn ddim mwy na thrafodaeth anffurfiol. Ni ystyria’r Adran na’r Brifysgol eu bod wedi rhwymo gan ddim byd namyn datganiad ysgrifenedig. Ym mhob achos felly, cynghorir ymgeiswyr, neu eu cynrychiolwyr, i gadarnhau’r argraff a ffurfiwyd ar lafar dros y ffon drwy ysgrifennu at Diwtor Derbyniadau’r Adran.
Cyfle Cyfartal
Mae’r Adran wedi ymrwymo i bolisi cyfle cyfartal ar gyfer pob ymgeisydd sy’n awyddus i astudio ein cyrsiau. Ni fydd unrhyw ymgeisydd sy’n gwneud cais ar gyfer astudio yma fel myfyriwr israddedig neu ôl raddedig yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail rhyw, tueddiad rhywiol, hil, lliw, cenedl, tras ethnig neu genedlaethol, anabledd, statws priodasol, statws rhieni, rhywioldeb, crefydd nac unrhyw sail arall.
Cefnogaeth Academaidd
Mae’r Brifysgol yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Canolfan Iaith a Dysgu. Mae gan y staff yno brofiad helaeth o gynorthwyo myfyrwyr sy’n cael anawsterau gydag agweddau ar eu tasgau academaidd. Mae croeso i unrhyw fyfyriwr sydd wedi ei gofrestru yn y Brifysgol ac sy’n gofyn cyngor yn ymwneud a materion astudio / dysgu unigol. Gallant helpu a rhoi cyngor ar faterion megis trefnu a rheoli amser, ysgrifennu academaidd, cymryd nodiadau mewn darlithoedd, delio a deunydd darllen a phryder ynglŷn â gwaith.
Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu gwasanaethau a chynghorion arbenigol i fyfyrwyr gydag Anawsterau Dysgu Penodol megis: dyslecsia, dyspracsia, ADD / ADHD a chyflyrau megis Syndrom Asperger.
Anghenion Addysgol Cymru
Yn unol â Siarter y Brifysgol, mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig nifer helaeth o gynlluniau gradd a modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gohirio lle am flwyddyn
Mae’r Adran yn croesawu ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr sy’n awyddus i gymryd blwyddyn allan cyn dod i astudio.
Astudio rhan amser
Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio yn rhan amser. Gellid gwasgaru’r 360 o gredydau hanfodol dros gyfnod sy’n ymestyn rhwng 4-6 mlynedd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n polisïau derbyn, neu unrhyw agwedd o dderbyn myfyrwyr, cysylltwch â Ms Charmian Savill
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Adeilad Parry-Williams Prifysgol Aberystwyth Campws Penglais Aberystwyth Ceredigion SY23 3AJ
Ffôn: (01970) 622828
E-bost: cms@aber.ac.uk