Ymchwil yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Wedi'i hangori yng Nghymru, a gyda phroffil ryngwladol ar draws pob un o'i disgyblaethau, mae'r Adran yn amlygu ymchwil ac astudiaethau o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o fewn theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau o fewn amgylchedd diwylliannol globaleiddiedig.
Yn ôl canlyniadau Asesiad Ymchwil 2008, mae 30% o’r ymchwil a wnaed yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn safon sy’n ‘arwain y byd’ (4*). Barnwyd bod 30% arall yn bodloni safonau ‘rhagoriaeth ryngwladol’ (3*). Dyma ein rhoi ni yn ddiamheuaeth ymhlith Prifysgolion gorau Prydain yn ein maes. Yn ôl asesiad un o’r tablau uchaf ei barch, cynghrair ‘Power’ Research Fortnight, rydym ni yn dod yn drydydd yng ngwledydd Prydain. Mae hynny’n brawf bod Prifysgol Aberystwyth yn rym rhyngwladol ym maes Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ac o’r ymchwil a raddir sy’n cael ei gwneud yng ngwledydd Prydain, mae dros 5% o’r cyfan yn cael ei wneud gan staff yma yn yr Adran.
Mae'r Adran wedi ymroi i barhau bywiogrwydd yr amgylchedd ymchwil drwy ddulliau sefydledig ar gyfer hybu gweithgaredd ymchwil:
- cefnogi gwaith ei chanolfannau ymchwil rhyngwladol adnabyddus
- golygu, rheoli a chefnogi cyfnodolion rhyngwladol a chyhoeddiadau ar-y-cyd perthnasol
- cynnal cynhadleddau, symposia a seminarau rhyngwladol ynghŷd â digwyddiadau ymchwil eraill
- cynhyrchu a rheoli prosiectau ymchwil sydd wedi eu hariannu'n allanol
- cefnogi myfyrwyr ymchwil sydd yn gweithio ar brosiectau sydd o fewn diddordebau craidd grŵpiau ymchwil yr Adran
- hwyluso diwylliant ymchwil fywiog, cyffrous a heriol i gefnogi ystod eang o bynciau a methodolegau
- darparu cynllun gwyliau ymchwil a chymorth ariannol ar gyfer cyflwyno mewn cynhadleddau, ymchwil archifol, gwaith maes a ffurfiau eraill o weithgarwch academaidd.
Am ragor o fanylion ar ymchwil o fewn yr Adran dilynwch y dolenni canlynol :