Grŵp Ymchwil Ffilm, Teledu a'r Cyfryngau
Manylion y Grŵp Ymchwil
Mae’r Adran yn gwneud gwaith ymchwil ar draws ystod o bynciau astudiaethau ffilm, teledu a’r cyfryngau, gan ganolbwyntio’n benodol ar bedwar maes:
• Hanes ffilm a theledu
• Polisi, cydymffurfiaeth a rheoliad y cyfryngau
• Ymchwil Cynulleidfa a Derbyniad
• Ffilm a theledu dogfennol
• Sinema Eithafol ac amgen
Mae’r Adran yn ymrwymo’n benodol i gefnogi ymchwil sy’n berthnasol i fywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymru, ac yn ei osod yng nghyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Ymchwil Cyfryngau Mercator, sef gwaith ymchwil mawr i gyfryngau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop sy’n cael ei gyllido gan yr UE, yn arbennig o bwysig yn y cyd-destun hwn. Mae’r Adran yn cyfarwyddo ymchwil pellach sy’n gysylltiedig â’r diwydiant drwy Brosiect Monitro S4C, ar y cyd ag Archif Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r Adran yn croesawu ac yn cefnogi ystod eang o ymarferion ymchwil ac mae’r dulliau ymchwil yn cynnwys: dadansoddi testun; hel data empiraidd; hanesyddiaeth ac ymchwil archifyddol; ethnograffeg; ymchwil yn seiliedig ar ymarfer; ymholiad athronyddol; ac ymchwil gweithrediad. Ein nod yw sicrhau bod yr ystod eang hwn o ddulliau ac ymarferion yn gallu rhyngweithio’n gynhyrchiol i greu mewnwelediadau a chyfleoedd newydd.
Yr aelodau o staff sy’n ymddiddori’n benodol yn y meysydd ymchwil hyn yw:
• Yr Athro Martin Barker
• Yr Athro Tom O’Malley
• Yr Athro Elan Closs Stephens
• John Burgan
• Dr Glen Creeber
• Dr Kate Egan
• Dr Merris Griffiths
• Elin Haf Jones
• Dr Jamie Medhurst
• Dr Paul Newland
• Richard O’Sullivan
• Dafydd Sills-Jones
• Dr Sarah Thomas
• Dr Kate Woodward
Datblygwyd ein gwaith ymchwil yn benodol a’i wneud yn gyhoeddus drwy:
• ofalu am yr e-gyfnodolyn, Participations: Journal of Audience and Reception Studies (http://www.participations.org: dau gyhoeddiad y flwyddyn, wedi’u cydolygu gan Barker; gydag Egan a Griffiths ar y Bwrdd Golygyddol, a myfyrwyr doethurol yn cyfrannu at ei gynhyrchu).
• gofalu am y cyfnodolyn Media History (tri chyhoeddiad y flwyddyn, wedi’u cydolygu gan Yr Athro Tom O’Malley)
• gofalu am y cyfnodolyn Mercator Media Forum (tri chyhoeddiad y flwyddyn, wedi’u golygu gan Elin Haf Jones)
• trefnu cynadleddau, symposia a seminarau ymchwil, gan gynnwys: ‘Communications in Wales After the Communications Act’ (2004) a ‘The Convergence Fund Seminar’ (2006); cynhadledd olaf prosiect Ymchwil Cynulleidfa Ryngwladol The Lord of the Rings (2004); cynhadledd flynyddol Cymdeithas Ymchwil Chwedlau Cyfoes (2004); cynhadledd rwydwaith uwhcraddedigion ar ymchwil cynulleidfaoedd sy’n gysylltiedig â phwnc MeCCSA (2007); S4C – Y 25 Mlynedd cyntaf (2007); a’r International Association for Media History (2009).
Bu’r Adran yn gartref i ambell brosiect ymchwil a ddenodd nawdd pwysig, gan gynnwys:
• Cyfres barhaus o astudiaethau a wneir gan Ganolfan Ymchwil Cyfryngau Mercator yr Adran, a gyllidwyd gan yr UE (Cyfarwyddwr: Elin Haf Jones), sy’n cadw golwg gyson ar sefyllfa cyfryngau ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop, a Phrosiect Cydymffurfiaeth Thomson sy’n adrodd yn rheolaidd i S4C ar y ffordd y mae’n cyflawni ei siarter.
• Ymateb cynulleidfaoedd i wylio trais rhywiol ar sgrîn (contract ymchwil gan Fwrdd Categorïo Ffilm Prydain; 2006 – bu’r Athro Barker, Dr Egan a Dr Sexton, a myfyriwr doethurol yn rhan o hyn)
• Prosiect Ymchwil Cynulleidfaoedd Rhyngwladol The Lord of the Rings (ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol [ESRC]; 2003/4 Yr Athro Martin Barker a Dr Kate Egan) – archwilio natur ymatebion cynulleidfaoedd ledled y byd i’r ffilmiau, ac archwilio rôl ffantasi ym mywydau cynulleidfaoedd;
Bu’r Adran yn llwyddiannus yn ddiweddar yn ei chais am Wobr Ddoethurol Gydweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau am weithio gyda Bwrdd Categorïo Ffilm Prydain. Pwrpas y prosiect hwn, sy’n dechrau ym mis Hydref 2009, yw rhoi’r cyfle i fyfyriwr doethurol archwilio’r ffyrdd y mae un gymuned ddewisiedig o gefnogwyr ffilmiau ‘arswyd eithafol’ yn parhau i wneud defnydd o’r llif o ddatblygiadau technolegol dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, at eu dibenion eu hunain.
Ymchwilio doethurol i ffilm, teledu a’r cyfryngau:
Mae’r pynciau PhD diweddar yn cynnwys: Ymateb cynulleidfaoedd i ffilmiau Shakespeare poblogaidd; Natur ofnau a phryderon a ledaenwyd gan y cyfryngau ymhlith cynulleidfaoedd teledu Prydain a’r Almaen; Dealltwriaethau cynulleidfaoedd o rôl cân boblogaidd mewn comedïau rhamantaidd; Syniadaethau newidiol am wrywdod o fewn i ryddfraint James Bond a’r derbyniad iddo; Cyfryngau digidol, globaleiddio a hawliau dynol; Astudiaeth dderbyniad trawsddiwylliannol ffilmiau Dario Argento; Rhaglenni Dogfen Hanes ar Deledu’r Deyrnas Gyfunol, 1982-2002; Bwrdd Ffilm Cymru; Cymharu’r sylw a roddodd teledu Prydain a’r Iseldiroedd i ddigwyddiadau “9/11”; Bydoedd Rhithwir a’r Cyfryngau Newydd; trefniadaeth gwmpasog hunangyflwyniad Llafur Newydd; Cefnogwyr Tarantino; teledu cwlt a dilynwyr.