Grŵp Ymchwil Perfformio

Canolfannau Ymchwil


• Canolfan Ymchwil Perfformio (CPR)


Cynadleddau Ymchwil


• Living Landscapes


Manylion y Grŵp Ymchwil


Cydnabyddir cryfderau’r Adran ym maes ymchwil perfformiad yn eang; yn Ymarfer Asesiad Ymchwil 2008, nodwyd bod ei waith yn ‘arwain y byd’. Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy brosiectau noddedig aelodau unigol o’r staff a gweithgareddau’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio sy’n enwog ledled y byd. Mae’r Ganolfan yn cynnig rhaglen flynyddol lawn o ddarlithoedd gwadd, gweithdai a pherfformiadau ac yn darparu cyfleusterau llyfrgell, archif ac adnoddau mewn adeilad newydd pwrpasol ar gyfer ymchwil perfformio sydd hefyd yn cynnwys stiwdio ymarfer uwchraddedigion.


Mae’r Adran yn cefnogi astudiaethau ysgolheigaidd, ymchwil yn y maes a gwaith ymholi a arweinir gan ymarfer mewn perfformiad, ac yn croesawu dulliau rhyngddisgyblaethol. Mae prosiectau cydweithredol presennol yn cynnwys cyfres siaradwyr nodedig, Performance and Politics a drefnir ar y cyd â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a  Living Landscapes, cynhadledd ryngddisgyblaethol a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.


Mae sawl aelod o staff yn berfformwyr a rhoddir pwyslais ar y proses o lunio, darllen a dadansoddi perfformiad mewn cyd-destun lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a thrawsgenedlaethol.
Mae’r themâu ymchwil presennol yn cynnwys:


• Tirlun, amgylchfyd a pherfformiad safle penodol    
• Gofod, lle a dynameg diwylliannol perfformiad       
• Perfformiad, gwleidyddiaeth a moeseg
• Cynllunio setiau, gosod perfformiad a theatr delweddau          
• Theatr ôl-ddramataidd 
• Dogfennu ac archifo perfformiad         
• Anabledd a pherfformiad  


Yr aelodau o staff sy’n ymddiddori’n benodol ym maes ymchwil perfformio yw:


 Yr Athro Adrian Kear
• Yr Athro Mike Pearson
• Yr Athro Richard Gough

• Dr Heike Roms
• Dr Carl Lavery
• Dr Andrew Filmer
• Dr Sabine Sörgel
• Richard Downing
• Simon Banham
• Jill Greenhalgh     (Magdalena)

• Margaret Ames


Mae cysylltiadau cryf rhwng yr Adran a Phrifysgol Frankfurt ac mae’r Athro Hans-Thies Lehmann, a fathodd y term theatr ôl-ddramataidd, yn ymwelydd cyson ag Aberystwyth. 

        
Mae’r Adran yn golygu a chefnogi Performance Research, y prif gyfnodolyn yn y maes, ac fe chwaraeoedd rôl arwyddocaol wrth sefydlu Performance Studies international, y mudiad aelodaeth disgyblaethol. 

        
Fel enghreifftiau o ystod y prosiectau a arweinir gan staff, dyfarnwyd grant ymchwil mawr yn ddiweddar (gwerth £165,779) i Dr Heike Roms gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mi fydd y grant yn cefnogi prosiect ymchwil dros gyfnod o ddwy flynedd, o’r enw “'It was forty years ago today…': Locating the Early History of Performance Art in Wales 1965-1979”. Bydd y prosiect yn archwilio sut y caiff hanesion celfyddyd perfformio eu llunio, gan roi sylw arbennig i ddatblygiad y ffurf yng nghyd-destun Cymru. Hefyd, yn 2007, dyfarnwyd grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i’r Athro Mike Pearson i greu tri gwaith sain teirawr o hyd ar gyfer Dyffryn Ancholme yng Ngogledd Swydd Lincoln. Mae’r cyfuniadau o destun a cherddoriaeth ar gael fel ffeiliau mp3 i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim ar wefan Carrlands. Derbyniodd Dr Heike Roms nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ei phrosiect archif mawr ar hanes celfyddyd perfformio yng Nghymru dros ddeugain mlynedd – ‘What’s Welsh for Performance?’/Beth yw ‘Performance’ yn Gymraeg?’ Rhan o hyn fu creu bas-data ar-lein, cyfres o gyfweliadau cyhoeddus gydag artistiaid amlwg a nifer o gyhoeddiadau cysylltiedig. Ac fe dderbyniodd Jill Greenhalgh, a sefydlodd Brosiect Magdalena: rhwydwaith rhyngwladol o ferched yn y theatr gyfoes, Gymrodoriaeth Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei gwaith perfformio ei hun ymhellach.


Mae prosiectau PhD cyfredol yn cynnwys hunangofiant, lle a pherfformiad; bod yn fyw ac efelychiad mewn seiberofod, gemau a pherfformiad digidol; taith fel ymarfer esthetig mewn perfformiad cyfoes; ochr berfformiadol clefyd gan gyfeirio at grydcymalau gwynegol mewn pobl ifainc; a’r gwrthrych fel arwydd ôl-ddramatig.