Grŵp Ymchwil Theatr a Chyfryngau Cymru

Canolfannau Ymchwil

Manylion y Grŵp Ymchwil

Mae gan yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu gyfrifoldeb arbennig dros ymchwilio i theatr, ffilm, y cyfryngau a pherfformio yng Nghymru – ac yn arbennig yn y Gymraeg – ac mae’n gwneud hynny trwy ofyn cwestiynau sy’n canolbwyntio ar brofiad y gymuned, adeiladu cenedligrwydd drwy ddiwylliant, a’r ymchwilio artistig i hunaniaeth gymdeithasol.
 
Mae rhai o’r diddordebau ymchwil penodol yn cynnwys theatr a pherfformio cyfoes yng Nghymru; hanes y theatr yng Nghymru; cyfryngau iaith leiafrifol; y cyfryngau yng Nghymru, y cyfryngau a hunaniaeth genedlaethol; ffilmiau, darlledu a pholisi’r celfyddydau yng Nghymru.

Dyma’r aelodau o staff sydd â diddordeb penodol mewn Ymchwil i’r Cyfryngau a’r Theatr yng Nghymru:

Mae staff yr adran yn cyfrannu at ymchwil ac ysgolheictod yn y Gymraeg ac am Gymru drwy gyhoeddi monograffau, golygu’r e-gyfnodolyn a adolygir gan gyd-academyddion, sef Gwerddon a chydolygu’r cyfnodolyn Media History (Routledge), sef fforwm ar gyfer ysgolheictod ar bob agwedd ar hanes y cyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau yng Nghymru.  Mae’r staff hefyd yn gwneud ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer sy’n ymdrin â nodweddion penodol cyd-destun y Gymraeg. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ategu gan gysylltiadau agos â’r sefydliadau theatr, ffilm a theledu yng Nghymru megis Theatr Felinfach, Theatr Genedlaethol Cymru, Asiantaeth Ffilm Cymru, Boomerang, S4C ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Mae’r adran yn trefnu amrywiaeth o gynadleddau a digwyddiadau ymchwil yn y maes hwn, megis ‘S4C: Y Chwarter Canrif Cyntaf’ (2007) , ‘Saunders Lewis a Cymru Fydd’ (2007) a ‘Communications in Wales after the Communications Act’(2004). Mae’r digwyddiadau hyn wedi cael eu hategu gan ddarlithoedd a seminarau ymchwil o fri a gynhaliwyd ar y cyd â’r Ffwrwm (rhwydwaith sy’n ymroddedig i ysgogi ymdrechion deallusol a chreadigol lleol yn Gymraeg), Gŵyl y Cyfarwydd (sy’n archwilio i draddodiadau’r arferion perfformio mewn cymunedau lleol), Canol, Cyfrwng a Thraws (sef rhwydweithiau cyfryngau Cymru, astudiaethau’r cyfryngau, ac astudiaethau perfformio, yn eu tro).  

Yn ddiweddar mae myfyrwyr wedi cwblhau doethuriaethau, neu wrthi’n gweithio ar ddoethuriaethau ar bynciau megis datblygiad y sinema yng Nghymru;  sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli yn sinematig; hanes ITV yng Nghymru; theatr ôl-ddramatig yng Nghymru; fframweithiau esthetig ar gyfer y theatr yng Nghymru; theatr, cymdeithas a Chymreictod yng Nghymru; hanes dylunio llwyfannau yn y theatr Gymraeg ar ôl 1945; a sut y cynrychiolir pobl ifainc yn y sinema drwy iaith.