Cyllid Ymchwil
Gall sicrhau cymorth ariannol fod y rhan fwyaf anodd o drefnu prosiect ymchwil ac yn aml iawn fe fydd yn rhaid gwneud cais i fwy nag un lle.
Ceir ystod eang o weithgareddau a threuliau sy’n gysylltiedig ag ymchwil y gallech wneud cais am nawdd iddynt. Gall y rhain fod yn brosiectau bychain neu’n brosiectau cydweithredol rhyngwladol mawr. Dyma ambell enghraifft:
• Teithio, llety a chostau croesawu siaradwyr allweddol i gynhadledd.
• Teithio, cynhaliaeth a llety ar gyfer mynychu cynadleddau yn y Deyrnas Gyfunol a thramor. Cyhoeddi gweithiau ysgolheigaidd
• Cynorthwywyr ymchwil a chefnogaeth ysgrifenyddol
• Costau rhwydweithio
• Croesawu ymweliad gan aelod o staff o theatr, stiwdio neu amgylchfyd tebyg.
• Paratoi ymchwil i’w gyhoeddi
• Offer
• Cyngor allanol
• Nwyddau traul
• Meddalwedd arbenigol
• Paratoi deunyddiau darluniol
• Trefnu gweithdy bychan (gan gynnwys dod ag ysgolheigion o dramor i’r Deyrnas Gyfunol).
• Cyfnod sabothol.
Mae gan bob corff ariannu wahanol ofynion, nodau a diddordebau o ran cymhwysedd. Edrychwch ar dudalennau gwe’r mudiad ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwahanol gynlluniau a’r dyddiadau cau.
Mae Gweinyddydd Ymchwil yr Adran, Ceris Medhurst-Jones, hefyd ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad.
Ffynonellau Nawdd Mewnol
• Cronfa Ymchwil y Brifysgol
• Cronfa Gynadleddau’r Brifysgol
• Gwobrau David Hughes Parry
• Ffurflen Cronfa Cynhadleddau Adrannol - TFTS
• Ffurflen Cronfa Ymchwil Adrannol - TFTS
Ffynonellau Nawdd Allanol
• Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
• Academi Brydeinig
• Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol
• Cyngor Celfyddydau Cymru
• Cronfeydd yr UE
• Ymddiriedolaeth Leverhulme
• Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Gellir dod o hyd i fwy o gyfleoedd a chyfarwyddyd ynghylch ariannu ymchwil a sut i wneud cais llwyddiannus yn: www.researchresearch.com