Strategaeth Ymchwil
Dogfennau i'w lawrlwytho:
TFTS Research Action Plan 2009-10
Bwriad yr Adran yw dilyn yr amcanion ymchwil canlynol:
• Cyflawni ymchwil gwreiddiol a fydd yn arwain at gyfrannu’n sylweddol at wybodaeth, ac at lunio a chreu gwybodaeth newydd, o fewn i ddisgyblaethau astudiaethau theatr, perfformiad, ffilm a theledu
• Archwilio’r berthynas rhwng y disgyblaethau hyn, a sut y maent yn perthyn i ddisgyblaethau ac ymarferion creadigol ac academaidd eraill
• Sefydlu cysylltiad ystyrlon a chreadigol rhwng gwahanol fathau o ymchwil ac allbwn, er mwyn caniatáu i ddamcaniaeth ac ymarfer gwestiynu ei gilydd, a chreu testunau, perfformiadau, cynlluniau, delweddau a syniadau a fydd yn arwain at fewnwelediadau newydd
• I ddatblygu ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y mae nodweddion penodol theatr, perfformiad a diwylliant y cyfryngau yng Nghymru yn perthyn i’r rheiny yn y byd ehangach
• I wneud gwaith ymchwil ysgolheigaidd ac ymarferol, a hefyd waith ymchwil sy’n berthnasol i anghenion y diwydiannau theatr, ffilm a theledu, er mwyn gwneud cyfraniad parhaol i ddatblygiad theatr, ffilm a theledu yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn ceisio parhau i ymelwa ar ei chysylltiadau a chydweithrediadau lleol a byd-eang i gynnal ein hymchwil i arwyddocâd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol theatr, perfformiad, ffilm a chyfryngau’r sgrîn oddi mewn i amgylchfyd diwylliannol byd-eang.