Cyfleoedd Ôl-raddedig

Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnig amgylchedd ardderchog am astudiaethau uwchraddedig. Mae enw da rhyngwladol yr Adran am ei dysgu a’i hymchwil flaengar o safon uchel yn golygu bod Aberystwyth yn lle delfrydol i astudio am raddau Meistr a Doethuriaeth. Mae ei chymuned fywiog a mawr o uwchraddedigion yn cael ei gweld fel rhan allweddol o ragoriaeth ymchwil a dysgu’r Adran. 

Pam astudio am ddoethuriaeth?

Mae gwaith ymchwil yn rhoi llawer o foddhad ac yn cynnig cyfle i wneud cyfraniad gwreiddiol at eich maes. Mae nifer yn dewis gwneud PhD gan ei fod yn eich galluogi i astudio yn fanwl agwedd ar bwnc sydd wedi dal eich dychymyg deallusol . Mae ystod PhD yn caniatáu elfen o arbenigedd na all gradd Meistr ddarparu. Mae PhD o sefydliad uchel ei pharch fel Aberystwyth hefyd yn rhoi hyfforddiant sgiliau datblygedig sy'n cael ei gwerthfawrogi fwyfwy mewn marchnad lafur gystadleuol . Mae cael PhD yn gwbl allweddol ar gyfer y rhai sy'n ystyried gyrfa academaidd .

Cyfleoedd Ymchwil

Mae gan yr Adran gymuned rhyngwladol o fyfyrwyr yn gweithio tuag at gymhwyster doethur. Mae ystod y pynciau a’r methodolegau yn eang ac yn cwmpasu pob elfen o astudiaethau drama, perfformio, y cyfryngau, ffilm a theledu. Mae arolygiaeth a hyfforddiant ymchwil ar gyfer MPhil neu PhD ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellid canoli ar bynciau megis:

  • Theatr, Perfformio, Ffilm a Theledu yng Nghymru ac yn Gymraeg
  • Estheteg a gwleidyddiaeth
  • Perfformio safle-benodol
  • Theatr gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon  
  • Theatr Dogfen a Verbatim
  • Hanesyddiaeth ac archifo perfformio, ffilm, cyfryngau a theledu
  • Theatr a Sinema Genedlaethol a Thrawsgenedlaethol
  • Perfformio a Ffilm Amgen, arbrofol ac avant-garde
  • Theatr a Sinema Rwsia
  • Y tirlun mewn theatr a pherfformio
  • Ymarfer fel ymchwil ym meysydd Drama, perfformio, ffilm, teledu a’r cyfryngau
  • Polisïau rheoleiddio a sensro ffilm, y wasg a darlledu
  • Genrau ac Estheteg drama deledu
  • Astudiaethau cynulleidfa a ffanyddiaeth 
  • Ffilm a theledu dogfen
  • Ffilm a theledu cwlt, arswyd a ffantasi
  • Plant a’r cyfryngau
  • Cerddoriaeth a sain ffilm
  • Perfformio ffilm
  • Sinema Brydeinig 

Rydym yn cefnogi ymarfer drwy ymchwil.  Y cyfnod cofrestru ar gyfer MPhil llawn-amser yw blwyddyn, neu dwy flynedd ar gyfer MPhil rhan –amser. Y cyfnod cofrestru ar gyfer PhD yw tair mlynedd ar gyfer cwrs llawn-amser, a pum mlynedd os dewisir astudio yn rhan-amser.

Rhan bwysig o'n darpariaeth ddoethur yw'r diwylliant ymchwil ehangach. Rydym yn cynnig rhaglen flynyddol o seminarau ymchwil, siaradwyr gwadd a pherfformiadau, a chynhadledd tridiau blynyddol a drefnir ac a fynychir gan fyfyrwyr ôl-raddedig a staff, lle rydym yn rhannu syniadau  a heriau gwaith ymchwil. Budd arall sydd gan ein myfyrwyr doethur yw ystafell astudio pwrpasol gyda cyfrifiaduron, mynediad i'r rhyngrwyd,  a chyfleusterau argraffu a ffôn.

Ariannir myfyrwyr PhD yr Adran trwy ffyrdd amrywiol, the AHRC, Prifysgol Aberystwyth, elusennau annibynnol, cyrff ariannu tramor a chyflogwyr. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad wrth wneud cais i’r sefydliadau hyn.  Mae gennym hefyd nifer o ysgoloriaethau adrannol a wobrwyir i fyfyrwyr eithriadol nad sydd wedi sicrhau cyllid o sefydliad arall.  Cynllunnir yr rhain i gyllido ffioedd a chostau byw am dair mlynedd.

Ariannu Eich PhD

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Ysgoloriaethau Uwchraddedig i weld pa wobrau y gallech fod yn gymwys i’w derbyn.

Sut i Wneud Cais

Rydym yn falch iawn eich bod yn ystyried dod i Aberystwyth i ddilyn gwaith ôl-raddedig yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig hyfforddiant ac addysg ôl-raddedig o safon uchel ar draws ein meysydd pwnc eang, a'r broses dderbyn yw’r cam cyntaf yn y broses hon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio. 

Cyn gwneud cais ffurfiol, byddem yn eich cynghori'n gryf i anfon ymholiad cychwynnol atom. Anfonwch eich drafft amlinellol neu gynnig ac arwydd o'r arian ar gyfer yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdani i'r Cydlynydd Ôl-raddedig Adrannol, Dr Jamie Medhurst (tftspgr@aber.ac.uk).

Dilynwch y 'Guidance on writing a PhD proposal for TFTS'.

Gwneud Cais Nawr