Polisi Amserlen Academaidd

1. Pwrpas y polisi

2. Polisi’r amserlen academaidd

2.1 Amseroedd dysgu

2.2 Ystafelloedd dysgu

2.3 Argaeledd staff

2.4 Blaenoriaethau a chyfyngiadau’r amserlen

2.5 Newidiadau i’r amserlen yn cynnwys newidiadau i ddyrannu ystafelloedd

2.6 Polisi canslo

2.7 Datrys anghydfod

2.8 Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr

3. Swyddogaethau a chyfrifoldebau amserlennu

3.1 Myfyrwyr

3.2 Staff academaidd

3.3 Penaethiaid Adrannau

3.4 Swyddogion Amserlenni’r Adrannau

3.5 Amserlennu

4. Proses yr amserlen academaidd

4.1 Y cyfnod casglu data

4.2 Paratoi’r amserlen ac amserlennu

4.3 Cyhoeddi’r amserlenni drafft a’r amserlenni terfynol

5. Archebu ystafelloedd yn achlysurol

1. Pwrpas y polisi

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisi a gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer:

  • Y fframwaith a’r meini prawf cyffredinol ar gyfer paratoi a chyhoeddi’r amserlen academaidd;
  • Rolau a chyfrifoldebau’r rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â’r trefniadau amserlennu;
  • Camau’r drefn o baratoi’r amserlen academaidd, yn cynnwys yr amserlen gyffredinol a’r dyddiadau cyhoeddi allweddol;
  • Cyfarwyddyd ynglŷn ag archebu ystafelloedd dysgu ar gyfer digwyddiadau heblaw

 2. Polisi’r amserlen academaidd

2.1 Amseroedd dysgu

2.1.1 Mae dyddiadau’r tymhorau dysgu presennol a’r tymhorau sydd i ddod i’w gweld ar wefan dyddiadau tymhorau'r

2.1.2 Mae ffiniau’r wythnos ddysgu safonol fel a ganlyn:

  • Llun - Gwener (gan gynnwys y dyddiau hynny)
  • 09:10 - 18:00 (gan gynnwys yr amseroedd hynny)
  • Cedwir prynhawn Mercher (o 13:00 ymlaen) ar gyfer chwaraeon i israddedigion a gweithgareddau eraill sy’n cyfoethogi profiad y myfyrwyr. Rhaid sicrhau cymeradwyaeth Pennaeth yr Adran cyn caniatáu eithriadau i hynny.

2.1.3 Dysgir am o leiaf 50 munud fel arfer.

2.1.4 Mae amseroedd dechrau a gorffen y cyfnodau ar yr amserlen academaidd wedi’u pennu er mwyn caniatáu amser egwyl o 10 munud i gyfnewid rhwng gweithgareddau dysgu. Gofynnir i staff a myfyrwyr sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i ddefnyddwyr eraill yr ystafell yn ystod y cyfnodau ymgyfnewid:

  • 09:10 - 10:00
  • 10:10 - 11:00
  • 11:10 - 12:00
  • 12:10 - 13:00
  • 13:10 - 14:00
  • 14:10 - 15:00
  • 15:10 - 16:00
  • 16:10 - 17:00
  • 17:10 - 18:00

2.1.5 Caiff gweithgareddau dysgu nad ydynt yn rhai arferol, a gweithgareddau eraill y tu allan i’r oriau arferol, eu lleoli yn unol â chanllawiau Polisi Rheoli Lle y Brifysgol.

2.2 Ystafelloedd dysgu

2.2.1 Mae ystafelloedd dysgu’r Brifysgol wedi’u rhannu’n ddau brif gategori:

  • Ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog, yn cynnwys theatrau darlithio, ystafelloedd seminar ac ystafelloedd cyfrifiaduron.
  • Ystafelloedd sy’n cael eu rheoli gan adrannau, sy’n cynnwys ystafelloedd cyfarfod/pwyllgor yn ogystal â mannau dysgu arbenigol megis labordai, ystafelloedd cyfrifiaduron a lleoliadau ymarfer.

2.2.2 Mae’r Brifysgol yn mynnu bod ei holl ystafelloedd dysgu a’u hamserlenni yn cael eu cadw ar y system amserlennu ganolog. Mae hynny’n cynnwys yr holl ystafelloedd dysgu canolog ac ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli gan adrannau.

2.2.3 Mae’r Swyddfa Amserlenni yn ceisio sicrhau bod ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog yn cael eu dosrannu’n deg ac o fudd i’r Brifysgol gyfan. Er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o’n hystad academaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i fyfyrwyr a staff fynd i ddosbarthiadau yn unrhyw rai o’r ystafelloedd dysgu a reolir yn ganolog gan y Brifysgol. Caiff adrannau academaidd unigol eu blaenoriaethu ar gyfer defnyddio ystafelloedd dysgu arbenigol a reolir ganddynt, ond disgwylir, serch hynny, i adrannau academaidd  gyfrannu at effeithiolrwydd strategaeth rheoli lle y Brifysgol drwy rannu’r ystafelloedd hyn ag adrannau eraill, lle bo hynny’n bosibl.

2.2.4 Rhoddir blaenoriaeth i weithgareddau dysgu sydd ar yr amserlen mewn ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog. Yn sgil yr effaith bellgyrhaeddol ar yr amserlen academaidd, bydd ceisiadau ar gyfer archebu ystafelloedd yn achlysurol yn ystod y cyfnod dysgu yn cael eu cadarnhau ar ôl i bethau dawelu wedi camau cychwynnol cyfnodau dysgu semester un a dau. Bydd angen i Weithrediaeth y Brifysgol gymeradwyo unrhyw eithriad i’r drefn hon.

2.2.5 Mae cynllun ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog yn cael ei bennu mewn ffordd arbennig er mwyn cefnogi gofynion dysgu’r Brifysgol ac mewn modd sy’n gydnaws â’r cynllun gorau ar gyfer pob ystafell a’r uchafswm capasiti y cytunwyd arno ar gyfer pob ystafell. Gall defnyddwyr ystafelloedd symud y celfi dros dro mewn mannau dysgu, ond rhaid iddynt ddychwelyd popeth i’w safle gwreiddiol ar ddiwedd pob sesiwn. Gosodir diagram ar y wal ym mhob ystafell sy’n dangos y cynllun arferol er mwyn galluogi gwneud hynny. Gall defnyddwyr ystafelloedd sydd ag anghenion hygyrchedd gysylltu â staff Gwasanaethau’r Campws am gymorth i adfer gosodiad gwreiddiol yr ystafell.

2.2.6 Ni chaniateir danfon darpariaeth arlwyo i ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog heb drefnu ymlaen llaw â’r Swyddfa Amserlenni. Ni chaniateir bwyd a diod mewn theatrau darlithio ar ogwydd.

2.2.7 Mae cyfleusterau taflunio data safonol ym mhob ystafell ddysgu sy’n cael ei rheoli’n ganolog.

2.2.8 Os oes nam ar offer mewn ystafelloedd dysgu sy’n cael eu rheoli’n ganolog, dylid rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Gwybodaeth gan ddefnyddio’r llinell ffôn uniongyrchol sydd ym mhob ystafell.

2.2.9 Bydd y defnydd ar bob ystafell ddysgu yn cael ei fonitro, a chynhelir archwiliadau o’r lle sydd ar gael. Gall canlyniadau archwiliadau o le arwain at godi tâl am beidio â defnyddio’r ystafell er ei bod wedi’i harchebu, yn unol â’r hyn a nodir ym Mholisi Rheoli Lle y Brifysgol.

 2.3 Argaeledd staff

2.3.1 Disgwylir i aelodau academaidd o’r staff fod ar gael yn ystod pob awr o’r wythnos ddysgu (gweler adran 2.1), oni chafwyd cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Adnoddau Dynol.

Dylai aelodau o’r staff academaidd ymgynghori ag Adnoddau Dynol i sicrhau bod patrwm y cyfnodau pan fo arnynt eisiau bod ar gael i ddysgu yn cydymffurfio’n llwyr â Pholisi Gweithio’n Hyblyg y Brifysgol.

Pan fydd gan staff gyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r gwaith yn ystod y cyfnod dysgu, gall Pennaeth yr Adran berthnasol gymeradwyo hynny (e.e. mynychu pwyllgorau).

2.3.2 Dylai aelodau staff roi gwybod i Swyddog Amserlenni eu Hadran am fanylion eu patrymau gwaith, a bydd y swyddog yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Amserlenni yn ystod y cyfnod o gasglu’r data ar gyfer y broses o baratoi’r amserlen academaidd ym mis Ebrill (gweler adran 4.1).

 2.4 Blaenoriaethau a chyfyngiadau’r amserlen

2.4.1 Nod y Swyddfa Amserlenni yw hwyluso dewis rhesymol, ond nid diderfyn, i fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae cymhlethdod y broses amserlennu, sy’n gorfod hwyluso holl rychwant gofynion y cynlluniau astudio, yn cynnwys cynlluniau anrhydedd cyfun, yn golygu bod heriau ynghlwm ag osgoi gwrthdaro ar yr amserlen.

Dyma’r drefn flaenoriaethu ar gyfer osgoi gwrthdaro:

  • Gwrthdaro rhwng modiwlau craidd sy’n cael
  • Modiwlau opsiynol. Lle nad oes modd osgoi gwrthdaro rhwng opsiynau, dylai myfyrwyr gysylltu â Swyddog Amserlenni’r Adran i gael arweiniad ar opsiynau
  • Lle bydd gwrthdaro dewisol yn digwydd (hynny yw, modiwlau nad ydynt yn elfennau craidd nac opsiynol o gynllun astudio’r myfyriwr), cynghorir myfyrwyr i ddewis modiwl arall.

2.4.2 Un o’r blaenoriaethau allweddol yw’r angen i ddarparu ystafelloedd priodol ar gyfer myfyrwyr a staff a chanddynt anghenion o ran hygyrchedd. Gan fod y gallu i roi’r polisi hwn ar waith yn ddibynnol ar gael gwybodaeth gywir, wedi’i diweddaru, rhaid i adrannau roi gwybod i’r Swyddfa Amserlenni am unrhyw anghenion o ran hygyrchedd.

Dylai staff academaidd a chanddynt anghenion o ran hygyrchedd roi gwybod i’w swyddog amserlenni adrannol, a bydd y swyddog yn cyd-drafod â’r Swyddfa Amserlenni ar eu rhan. Dylai myfyrwyr a chanddynt anghenion hygyrchedd unigol roi gwybod i’r Gwasanaeth Hygyrchedd yn yr adran Cymorth i Fyfyrwyr.

2.4.3 Rhaid i holl weithgareddau dysgu’r Brifysgol gael eu hamserlennu yn y system amserlennu ganolog, waeth a ydynt yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd a reolir yn ganolog ynteu mewn ystafelloedd a reolir gan un o’r adrannau. Mae hyn yn sicrhau bod modd paratoi’r amserlen academaidd gan ddilyn gweithdrefnau trwyadl o ran gwirio am unrhyw gyd-daro.

2.4.4 Nod y Swyddfa Amserlenni yw cyflawni’r cyfyngiadau isod:

  • Un diwrnod llawn – neu ddau hanner diwrnod - yn rhydd o ddysgu ar gyfer aelodau amser llawn o’r Bwriad hyn yw rhoi amser ar gyfer ymchwilio.
  • Toriad am ginio am awr o leiaf rhwng 12:10 a 14:10 ar gyfer myfyrwyr a staff, ac eithrio mewn achosion pan mai ychydig iawn o ddosbarthiadau sydd gan fyfyrwyr a staff ar adegau eraill o’r dydd.
  • Dim mwy na phedair awr o ddysgu ar ôl ei gilydd i staff a

Mae’r Adrannau’n gyfrifol am wirio eu hamserlenni a chrybwyll unrhyw bryderon cyn gynhared â phosibl, ac yn ystod y cyfnod drafftio os oes modd. Os bydd myfyrwyr neu aelodau o’r staff academaidd yn canfod bod disgwyl iddynt fod yn bresennol ar gyfer mwy na phedair awr o ddysgu ar ôl ei gilydd, dylent gysylltu â Swyddog Amserlenni’r Adran, a fydd yn cydgysylltu â’r Swyddfa Amserlenni i gael arweiniad.

2.4.5 Pan fydd gan fyfyrwyr ddosbarthiadau ar-lein, mae’r Swyddfa Amserlenni yn ceisio rhoi bwlch rhwng gweithgareddau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb er mwyn galluogi myfyrwyr i symud yn gyfforddus rhwng y gwahanol ddulliau hyn o gyflwyno’r dysgu. 

 2.5 Newidiadau i’r amserlen yn cynnwys newidiadau i ddyrannu ystafelloedd

 2.5.1 Gall newidiadau hwyr i’r amserlen academaidd, yn unol â diffiniad yr amserlen amserlennu, darfu’n sylweddol ar staff a myfyrwyr, a chael effaith andwyol sylweddol ar yr amserlen yn gyffredinol. O’r herwydd, ni ellir caniatáu ceisiadau am newidiadau hwyr sy’n cael effeithiau negyddol ar amserlenni adrannau eraill neu sy’n arwain at slotiau amser llai ffafriol i fyfyrwyr a staff. At ei gilydd, gan fod myfyrwyr a staff yn defnyddio’r amserlen gyhoeddedig yn sail i benderfyniadau ynghylch dewis modiwlau, trefniadau ar gyfer teulu a gofal plant, ymrwymiadau gwaith rhan-amser, a theithio i’r Brifysgol ac oddi yno, rhaid gwneud cyn lleied â phosibl o newidiadau hwyr i’r amserlen.

Cyn gwneud cais i newid yr amserlen, rhaid i adrannau academaidd, felly, ystyried pob cam amgen posibl trwy ymgynghori â’r Pennaeth Adran. Mewn achosion o salwch staff yn benodol, anogir aelodau o staff i ddysgu ar ran eu cydweithwyr, lle bo hynny’n bosibl. Dim ond ar ôl ystyried pob modd o ddatrys neu osgoi’r broblem yn yr adran y bydd newidiadau yn cael eu hystyried. Lle nad oes modd osgoi newid, rhaid rhoi rheswm dilys ac eglurhad dros gais am newid. Ar gyfer newidiadau sy’n effeithio ar brofiad y myfyrwyr, efallai y bydd angen i’r Swyddfa Amserlenni gael cefnogaeth Pennaeth Adran a chymeradwyaeth Dirprwy Is-Ganghellor cyn cyflwyno’r newid. Mae’r Swyddfa Amserlenni yn cynnal archwiliad blynyddol o’r holl geisiadau am newidiadau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi hwn.

2.5.2 Dylai adrannau sy’n dymuno gwneud cais am newidiadau yn ystod y tymor roi pum diwrnod gwaith o rybudd i’r Swyddfa Amserlenni cyn diwrnod cyntaf y newid arfaethedig.

Dylai myfyrwyr gael o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd ynghylch newidiadau i’r amserlen.

2.5.3 Mae’r meini prawf ar gyfer newidiadau hwyr i’r amserlen neu newidiadau ar ôl ei chyhoeddi fel a ganlyn:

  • Salwch difrifol ymhlith y staff, profedigaeth, neu gyfrifoldebau gofal
  • Cwrdd â gofynion hygyrchedd myfyrwyr neu
  • Ymdrin â newidiadau hwyr i niferoedd myfyrwyr, sy’n dod i’r amlwg oherwydd prosesau derbyn (hynny yw, lle bydd angen ystafell fwy).

2.5.4 Os oes newidiadau hwyr i argaeledd staff, ni ellir trefnu ar gyfer y rhain os byddant yn cael effaith andwyol ar yr amserlen academaidd (e.e. yr angen i newid amserlen adran/cynllun astudio arall neu effaith negyddol ar fyfyrwyr a staff). Lle bo’n berthnasol, dylai’r Pennaeth Adran reoli digwyddiadau o’r fath drwy ailddyrannu adnoddau presennol.

2.5.5 Lle cymeradwyir newidiadau i’r amserlen, bydd yr adrannau academaidd yn gyfrifol am hysbysu’r holl fyfyrwyr a staff y bydd y newid yn effeithio arnynt. Gwneir hynny drwy’r Swyddog Amserlenni Adrannol a fydd yn cydgysylltu â’r Swyddfa Amserlenni. Cydgysylltydd y Modiwl, fodd bynnag, fydd yn gyfrifol yn y pen draw am roi o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd i fyfyrwyr ynghylch unrhyw newidiadau i’r amserlen (gweler hefyd adran 2.6). Dylai myfyrwyr hefyd gael esboniad am y newid.

2.5.6 Ni ellir ystyried newidiadau hwyr i’r amserlen neu newidiadau ar ôl iddi gael ei chyhoeddi os ydynt yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau isod:

  • Newidiadau i amseroedd dysgu o fewn i gwmpas oriau dysgu arferol, os oes awr heb wrthdaro ar yr amserlen eisoes wedi ei darparu.
  • Newidiadau oherwydd newid dulliau dysgu.
  • Os bydd y newid yn cael effaith andwyol ar ansawdd yr amserlen neu’r effaith ar
  • Os bydd y newid yn cael effaith andwyol ar raglenni dysgu adrannau

2.5.7 Lle bydd gweithgareddau dysgu, megis seminarau, yn cael eu hamserlennu bob yn ail wythnos, atgoffir aelodau academaidd o’r staff ei bod hi’n bosibl fod gan fyfyrwyr ddosbarthiadau eraill yn ystod yr wythnosau eraill. Hefyd, efallai na fydd yr ystafelloedd arferol ar gael.

 2.6 Polisi canslo

Lle bydd adrannau academaidd yn dymuno canslo gweithgareddau dysgu ar yr amserlen ganolog, byddant yn gyfrifol am roi gwybod am hynny i’r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt ac am hysbysu’r Swyddfa Amserlenni. Er mwyn sicrhau trosolwg cywir o ddata’r amserlen, dylai adrannau academaidd gyflwyno rheswm dros ganslo’r dysgu i’r Swyddfa Amserlenni. Bydd y Swyddfa Amserlenni hefyd yn gofyn am o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o rybudd er mwyn prosesu manylion canslo’r gweithgaredd ar y system amserlenni.

 2.7 Datrys anghydfod

 O bryd i’w gilydd gall anghydfod godi mewn perthynas â dyrannu ystafelloedd, neu geisiadau am newidiadau i’r amserlen, er enghraifft. Bwriad y polisïau a amlinellir yn y ddogfen hon yw darparu cyfarwyddyd ar faterion o’r fath. Lle bydd angen cyfarwyddyd pellach, dylid cyfeirio’r anghydfod i sylw’r Rheolwr Amserlenni i’w ddatrys.

 2.8 Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr

Lle bydd pryderon ynghylch yr amserlen academaidd yn cael eu codi gan Bwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr, rhoddir pob ystyriaeth i’r rhain gan y Rheolwr Amserlenni a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth drwy Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr adrannau.

 3. Swyddogaethau a chyfrifoldebau amserlennu

3.1 Myfyrwyr

3.1.1 Disgwylir i fyfyrwyr cofrestredig amser llawn fod ar gael ar gyfer pob wythnos ddysgu yn ystod y flwyddyn academaidd (3.1.4).

3.1.2 Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am wirio’n rheolaidd fanylion eu gweithgareddau ar yr amserlen, o’r adeg y cyhoeddir yr amserlen derfynol ar eu cofnod myfyriwr ar-lein. Mae gwirio’n rheolaidd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth o newidiadau i oriau presennol, gweithgareddau ychwanegol neu newid ystafelloedd.

3.1.3 Bydd myfyrwyr sy’n dychwelyd (hynny yw, yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn gallu gweld eu hamserlen academaidd ar eu cofnod myfyriwr ar-lein o ddechrau mis Medi. Bydd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn gallu gweld manylion eu hamserlen ar eu cofnod myfyriwr dri diwrnod gwaith ar ôl iddynt gwblhau’r broses gofrestru.

Ceir rhywfaint o addasu ar yr amserlen ar ddechrau’r tymor tra bydd y myfyrwyr yn penderfynu’n derfynol ar eu modiwlau. Argymhellir y dylai’r myfyrwyr wirio eu hamserlen yn rheolaidd rhag ofn bod addasiadau wedi’u gwneud. Bydd amserlen semester un yn sefydlogi wedi wythnosau cyntaf y cyfnod dysgu.

3.1.4 Dylai myfyrwyr roi gwybod i Swyddog Amserlenni’r Adran os oes arnynt angen cymorth gyda’r naill fater isod neu’r llall:

  • Gwrthdaro rhwng gweithgareddau sydd wedi’u hamserlennu (gweler hefyd is-adran 2.4.3).
  • Anghenion hygyrchedd (gweler is-adran 4.1).

3.1.5 Ar ôl i’r amserlen derfynol gael ei chyhoeddi, dylai myfyrwyr sy’n dymuno newid eu Cynllun Astudio, neu un neu fwy o’r modiwlau y maent wedi’u dewis, wirio tudalen yr amserlen academaidd ar y we i weld unrhyw  wrthdaro posibl cyn cyflwyno cais ‘Newid Cofrestriad’ drwy eu cofnod myfyriwr ar-lein.

3.1.6 Gall myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon ofyn am ganiatâd yr adran academaidd i fod yn absennol yn ystod gweithgareddau dysgu bore Mercher er mwyn teithio i’r gemau. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd gwneud gwaith astudio ychwanegol er mwyn gwneud yn iawn am effaith absenoldebau o’r fath.

3.2 Staff Academaidd

3.2.1 Sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau ar yr adegau pan maent ar gael i ddysgu wedi’u cymeradwyo a’u cyfleu’n drylwyr wrth Adnoddau Dynol, y Pennaeth Adran, a’r Swyddog Amserlenni Adrannol, a fydd yn cydgysylltu â’r Swyddfa Amserlenni yn unol â hynny (gweler adran 2.3).

3.2.2 Gwirio’n ofalus ddrafftiau a fersiwn terfynol yr amserlen academaidd pan fyddant ar gael ym mis Gorffennaf a Medi.

3.2.3 Cadw at yr amseroedd dechrau a gorffen cywir ar gyfer y cyfnod dysgu a chyfrannu at sicrhau cyfnodau cyfnewid didrafferth rhwng dosbarthiadau (gweler is-adran 2.1.4).

3.2.4 Sicrhau bod cynllun gwreiddiol y celfi yn yr ystafelloedd dysgu yn cael ei adfer ar ddiwedd pob dosbarth.

3.2.5 Ar ddiwedd pob dosbarth, dylai aelodau’r staff:

  • Orffen recordio’r
  • Tynnu’r meicroffon diwifr a’i ddychwelyd i’r
  • Allgofnodi o’r
  • Pwyso’r botwm gwyn ‘Display Off’ ar yr uned
  • Glanhau’r bwrdd gwyn (gan ddefnyddio’r botel chwistrellu a’r clwtyn yn yr ystafell).
  • Sicrhau bod yr ystafell ddysgu yn daclus ac yn lân.

3.2.6 Rhoi gwybod i Swyddog Amserlenni’r Adran am unrhyw ddosbarthiadau sy’n cael eu canslo, fel y gellir diweddaru’r amserlen academaidd, lle bo’n briodol.

3.3 Penaethiaid Adrannau

3.3.1 Rheoli’r amserlenni academaidd ac arholiadau a threfniadau cysylltiedig yn eu hadran yn unol â darpariaethau’r polisi hwn.

3.3.2 Cadw at y dyddiad cau a osodir gan y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer cwblhau’r cynlluniau dysgu adrannol.

3.3.3 Penderfynu a yw’r ceisiadau am gyfyngu ar yr adegau pan fydd staff ar gael yn hanfodol.

3.3.4 Hwyluso’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod aelod o staff yn cymryd lle un arall os ceir newidiadau hwyr sy’n golygu nad yw staff ar gael.

3.3.5 Sicrhau nad yw ceisiadau adrannol am newidiadau i’r amserlenni academaidd ac arholiadau yn cael effaith andwyol ar fyfyrwyr, staff nac adrannau eraill.

3.4 Swyddogion Amserlenni Adrannau

3.4.1 Rheoli amserlenni academaidd ac arholiadau eu hadran ar ran y Pennaeth Adran.

3.4.2 Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer myfyrwyr a staff academaidd sydd ag ymholiadau ynglŷn â’r amserlen.

3.4.3 Cydgysylltu â staff academaidd ynglŷn â’u cynlluniau dysgu a chyflwyno manylion gofynion amserlen yr adran drwy’r sgrin casglu data am ddysgu ar myadmin.aber.ac.uk yn unol â’r camau a amlinellir yn llinell amser yr amserlen academaidd (gweler hefyd adran 4).

3.4.4 Cyfathrebu â’r Swyddfa Amserlenni ar ran myfyrwyr a staff er mwyn cadw golwg gynhwysfawr ar amserlen eu hadran.

3.4.5 Prosesu newidiadau i bresenoldeb myfyrwyr mewn grwpiau seminar a thiwtorial gan ddefnyddio’r meddalwedd dyrannu grwpiau a ddarperir gan y Swyddfa Amserlenni.

3.4.6 Cyfeirio’r holl batrymau sy’n nodi pryd mae’r staff ar gael at y Pennaeth Adran i’w dilysu (e.e. presenoldeb mewn pwyllgorau, patrymau gweithio hyblyg) a rhoi gwybod i’r Swyddfa Amserlenni ym mis Ebrill.

3.4.7 Rheoli’r drefn archebu ystafelloedd yn achlysurol mewn ystafelloedd sy’n cael eu rheoli gan yr adran.

3.5 Swyddfa Amserlenni’r Brifysgol

3.5.1 Cynllunio, paratoi a chyhoeddi’r amserlen academaidd trwy ymgynghori â Swyddogion Amserlenni’r Adrannau.

3.5.2 Cynllunio, paratoi a chyhoeddi amserlenni’r arholiadau trwy ymgynghori â Swyddogion Arholiadau’r Adrannau a Rheolwr Arholiadau’r Brifysgol.

3.5.3 Rheoli’r drefn archebu ystafelloedd yn achlysurol, gan gynnwys ceisiadau am le ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir gan gymdeithasau’r myfyrwyr yn ogystal ag adrannau academaidd ac adrannau gwasanaeth.

3.5.4 Hwyluso dyrannu a defnyddio ystafelloedd dysgu’r Brifysgol yn effeithiol.

3.5.5 Cynnal a datblygu gwefan Amserlennu’r Brifysgol.

 4. Proses yr amserlen academaidd

Mae amserlen academaidd y Brifysgol yn cael ei pharatoi o ddim bob blwyddyn yn unol ag arfer da ar draws y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.

Cytunir ar ddyddiadau’r broses ar gyfer paratoi’r amserlen bob blwyddyn mewn cyfarfodydd rhwng y Swyddfa Amserlenni a Swyddogion Amserlenni’r Adrannau. Bydd y llinell amser ar gyfer proses yr amserlen academaidd a bennir ar sail hynny yn cael ei chyhoeddi yn adran Dogfennau’r Amserlen Academaidd ar y wefan Amserlennu, yn dilyn cymeradwyaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth.

 4.1 Y cyfnod casglu data

4.1.1 Wrth lynu at nod y Brifysgol o sicrhau ansawdd a chywirdeb ei data dysgu ac addysgu, bydd Swyddogion Amserlenni’r Adrannau yn cyflwyno gofynion dysgu’r adrannau ar y sgrin casglu data dysgu ar myadmin.aber.ac.uk  ym mis Ebrill. Caiff y data eu mewnforio i’r meddalwedd Amserlennu. Mae ansawdd data’r amserlen academaidd yn dibynnu ar ba mor gywir yw’r gofynion dysgu a gyflwynwyd gan yr adrannau academaidd, ac mae’n holl bwysig nodi hyn.

4.1.2 Gan ystyried rôl ganolog y system rheoli myfyrwyr, fel ffynhonnell a man cyfeirio sylfaenol ar gyfer data’r Brifysgol, gofynnir i bawb sy’n ymwneud â phroses yr amserlen academaidd gymryd pob gofal wrth sicrhau bod y sgrin casglu data dysgu yn cael ei diweddaru, a’i chynnal yn rheolaidd ac yn ofalus, a’i bod yn gyfan gwbl gywir.

Ceir ffurflenni casglu data dysgu cyffredinol yn adran Dogfennau’r Amserlen Academaidd y wefan Amserlennu er mwyn cynorthwyo Swyddogion Amserlenni’r Adrannau â’r dasg hon.

4.1.3 Mae’r sgrin casglu data dysgu yn cynnwys dewis er mwyn i Swyddogion Amserlenni’r Adrannau gofnodi diben pob gweithgaredd dysgu yn unol ag un o’r ddau gategori isod:

  • Y we a Set Wybodaeth Allweddol (KIS)
  • Yr amserlen, y we a Set Wybodaeth Allweddol (KIS)

4.1.4 Mae ansawdd a phrydlondeb y prosesau a nodir uchod yn dibynnu ar gwblhau’r cynlluniau dysgu adrannol ymlaen llaw. Bydd yn rhaid sicrhau cymeradwyaeth y Weithrediaeth ar gyfer ceisiadau hwyr am fodiwlau newydd neu ddiwygiedig (hynny yw, ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd). Oherwydd cymhlethdodau ymarferol y drefn o baratoi’r amserlen, efallai na fydd modd cadw at y blaenoriaethau a’r cyfyngiadau a amlinellir yn is-adran 2.4.4 ar gyfer ychwanegiadau hwyr i’r amserlen.

4.1.5 Rhaid bod statws cynlluniau astudio’r holl fodiwlau ar yr amserlen academaidd wedi’i ddiweddaru’n llwyr ar y system rheoli myfyrwyr, er mwyn osgoi gwrthdaro ar yr amserlen academaidd. Y Gofrestrfa Academaidd sy’n gyfrifol am sicrhau bod manylion cynlluniau astudio’r modiwlau yn cael eu hychwanegu at adran Modiwlau y system rheoli myfyrwyr pan fydd modiwlau newydd yn cael eu hychwanegu at y gronfa ddata, neu pan fydd rheolau cynlluniau astudio yn cael eu newid.

 4.2 Paratoi’r amserlen ac amserlennu

Mae’r amserlen academaidd yn cael ei pharatoi yn unol â methodoleg swmp-amserlennu sy’n blaenoriaethu’r pethau canlynol:

  • Mae gweithgareddau dysgu yn cael eu hamserlennu yn nhrefn eu
  • Yr unig eithriadau yw gweithgareddau ac iddynt gyfyngiadau dilys sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu blaenoriaethu yn y drefn amserlennu (e.e. cyrsiau uwchraddedig rhan-amser lle mae’n rhaid i’r dysgu ddigwydd ar ddyddiau penodol).

4.2.1 Os bydd adran academaidd yn dymuno trefnu sesiynau dysgu sy’n sawl awr o hyd, byddai’n arfer da sicrhau bod y rhain yn dechrau ar adegau addas yn ystod y diwrnod dysgu. Er enghraifft, gorau oll os trefnir sesiynau dysgu teirawr am 09:10, 10:10, 14:10 a 15:10.

4.2.2 Ni chaniateir defnyddio cyfnodau o hanner awr (hynny yw, cyfnodau sy’n dechrau 30 munud ar ôl yr awr) ar yr amserlen ganolog. Y rheswm am hynny yw oherwydd nad yw cyfnodau hanner awr yn caniatáu’r drefn amserlennu orau a’u bod yn mynd yn groes i amcanion y Brifysgol o ran defnyddio lle yn effeithiol.

4.2.3 Er mwyn sicrhau nad oes gofyn i fyfyrwyr a staff fod mewn dosbarthiadau am fwy na phedair awr ar ôl ei gilydd, dylai adrannau osgoi cyflwyno ceisiadau am weithgareddau sawl awr o hyd sy’n hwy na’r terfyn hwn. Nid yw’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i weithgareddau maes.

 4.3 Cyhoeddi’r amserlenni drafft a’r amserlenni terfynol

4.3.1 Mae dyddiadau cyhoeddi’r amserlenni academaidd drafft a’r amserlenni terfynol fel a ganlyn:

  • Amserlen Ddrafft yn cael ei rhyddhau i Swyddogion Amserlenni’r Adrannau – dechrau Gorffennaf.
  • Amserlen Derfynol yn cael ei rhyddhau i Swyddogion Amserlenni’r Adrannau – diwedd Awst.
  • Amserlen Derfynol (Semester Un a Semester Dau) yn cael ei rhyddhau i fyfyrwyr sy’n dychwelyd – dechrau Medi.

4.3.2 Mae’r Swyddfa Amserlenni yn gwneud pob ymdrech i gloi’r amserlen academaidd tua mis cyn i’r dysgu ddechrau ym mhob semester. Pan fydd ceisiadau adrannau ar gyfer newidiadau yn cael eu cymeradwyo ar ôl y cyfnodau cloi, bydd Swyddogion Amserlenni’r Adrannau yn hysbysu’r myfyrwyr a’r staff drwy e-bost.

 5. Archebu ystafelloedd yn achlysurol

5.1.1 Ni fydd archebion achlysurol am ystafelloedd yn ystod cyfnodau dysgu yn cael eu cadarnhau tan ar ôl i’r amserlen academaidd derfynol gael ei chyhoeddi. Bydd y System Archebu Ystafelloedd ar y We yn cael ei hagor i fyfyrwyr a staff ddechrau Hydref.

Bydd croeso i fyfyrwyr a staff gyflwyno ceisiadau rhagarweiniol i’r Swyddfa Amserlenni drwy attstaff@aber.ac.uk yn ystod gwanwyn a haf y sesiwn academaidd flaenorol.

5.1.2 Bydd ceisiadau am ystafelloedd dysgu ar gyfer Dyddiau Agored y Brifysgol a digwyddiadau sy’n ymwneud â Dyddiau Ymweld yr adrannau yn cael eu blaenoriaethu ar draul pob archeb achlysurol arall am ystafelloedd.

5.1.3 Rhaid i’r Swyddfa Amserlenni gael o leiaf dri diwrnod gwaith i brosesu ceisiadau i archebu ystafelloedd.

5.1.4 Rhaid i geisiadau i archebu ystafelloedd sy’n cael eu rheoli gan adrannau gael eu cymeradwyo gan yr adran academaidd neu’r adran gwasanaethau proffesiynol berthnasol.

5.1.5 Mae’n bosibl y bydd archebion mewnol am ystafelloedd y tu allan i oriau arferol yn cael eu crynhoi mewn ystafelloedd penodol mewn adeiladau, neu mewn ystafelloedd ac adeiladau a chanddynt fynediad SALTO, yn unol â chanllawiau Polisi Rheoli Lle presennol y Brifysgol a chyda chymeradwyaeth y Rheolwr Adnoddau.

5.1.6 Dylai cleientiaid o’r tu allan i’r Brifysgol sy’n dymuno archebu ystafell gyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Gynadleddau.

5.1.7 Rhaid i geisiadau ar gyfer archebu ystafelloedd gydymffurfio â pholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol.

5.1.8 Disgwylir i fyfyrwyr a staff roi’r gofal dyledus i ystafelloedd dysgu’r Brifysgol (gweler is-adrannau 2.2.5, 2.2.6, 2.2.7 a 2.2.9).

5.1.9 Fel yn achos defnyddio ystafelloedd dysgu ar gyfer gweithgareddau dysgu ar yr amserlen ganolog, gall archebion achlysurol am ystafelloedd fod yn ddarostyngedig i archwiliadau a monitro ar y defnydd o le.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2022 gan Bwyllgor Gwella Academaidd a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Awst 2023.