Y Pecyn Adnoddau Cynorthwyo Myfyrwyr
Ydych chi ...
- yn rhywun sy’n cynnig cymorth yn rheolaidd i fyfyrwyr yn eich gwaith dydd i ddydd?
- yn Diwtor Personol newydd? neu
- yn dymuno gwybod pa wybodaeth ac adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo myfyrwyr?
Ydych? Dyma’r Pecyn Adnoddau i chi!
Dyma gam cyntaf y Pecyn Adnoddau Cynorthwyo Myfyrwyr a’r gobaith yw y bydd y tudalennau gwe hyn yn fan cychwyn defnyddiol. Rydym ni’n dibynnu ar eich cyfraniadau chi er mwyn i ni allu darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch - os oes gennych chi adborth neu awgrymiadau, cysylltwch â ni.