Tiwtoriaid Personol a Chynllunio Datblygiad Personol (CDP)
Mae Polisi CDP y Brifysgol yn datgan bod tiwtora personol sy’n hwyluso CDP myfyrwyr yn hanfodol i lwyddiant y system CDP ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gellir cyfuno hyn ag elfennau o CDP sydd wedi’u gwreiddio yn y cwricwlwm (mewn modiwlau/llwybrau) a defnydd o adnoddau e-ddysgu CDP megis y Portffolio CDP sydd yn AberLearn Blackboard. Gall y cydbwysedd rhwng yr elfennau hyn amrywio yn ôl disgyblaeth adran/pwnc a’r lefel o astudio.
Oherwydd y rôl y mae tiwtoriaid personol yn ei chwarae yn darparu cymorth academaidd, bugeiliol a phroffesiynol i fyfyrwyr gall CDP a thiwtora personol fod yn weithgareddau sydd â chysylltiad agos ac sy’n ategu ei gilydd (er mewn rhai amgylchiadau gall unigolion eraill, megis tiwtoriaid academaidd, gyflawni’r swyddogaeth hon).
Polisi CDP llawn y Brifysgol (PDF)
Cefndir
Mae’n ofyniad cenedlaethol ar bob prifysgol i ddarparu pecyn adnoddau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig greu a chadw cofnodion sy’n ymwneud â Chynllunio’u Datblygiad Personol (CDP). Mae portffolio CDP Aberystwyth wedi’i gynllunio i ategu, ac nid disodli’r cymorth wyneb yn wyneb a ddarperir gan diwtoriaid personol.
Proses strwythuredig o hunanwerthuso, ôl-ystyried, cynllunio a chadw cofnodion yw CDP. Ei brif ddibenion yw:
- Helpu myfyrwyr i wella ansawdd eu dysgu a’u perfformiad academaidd
- Cefnogi prosesau datblygu personol gan gynnwys y sgiliau fydd eu hangen mewn gyrfa yn y dyfodol
- Sicrhau bod gan fyfyrwyr yr adnoddau sy’n caniatáu cynllunio ymlaen i gyflawni eu hamcanion
Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb i ymgymryd â CDP ac am gadw eu Portffolio CDP yn gyfredol.
Mae CDP yn ymwneud â bywyd, gwaith ac astudio. Os caiff ei wneud yn dda, mae’n cynorthwyo ein myfyrwyr i ddod yn oedolion cyflawn, sy’n meddwl ymlaen, sy’n hyblyg ac yn alluog, â rhagolygon gyrfa da, fel y dymunwn i holl raddedigion Aberystwyth.
Sut mae CDP yn gweithio yn Aberystwyth?
Mae’r Portffolio CDP i’w weld yn AberLearn Blackboard. Mae un ar gyfer pob blwyddyn o astudiaethau israddedig. Mae’r dudalen we i fyfyrwyr yn www.aber.ac.uk/careers/pdp a cheir rhagor o wybodaeth i staff ar www.aber.ac.uk/careers/pdpfaqstaff. Mae tudalen y myfyrwyr yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol ar yr hyn y mae CDP yn ei gynnwys, pam ei fod yn ddefnyddiol, dolenni at dudalennau gwe adrannol a therfynau amser cyfranogiad myfyrwyr ac yn bwysicaf oll, canllaw sy’n dangos yn union sut i gael gafael ar y Portffolio CDP perthnasol i’r flwyddyn astudio israddedig a’i lawrlwytho. Mae tudalen y staff yn cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin yn benodol am CDP.
Mae Polisi CDP y brifysgol yn datgan y dylai pob rhaglen ddarparu canllawiau ysgrifenedig i fyfyrwyr israddedig ar ddiben a chynnwys y CDP a’r rhesymwaith y tu ôl i’r dull y’i cyflenwir yn ogystal â’r gofyniad i’w ddilyn drwy gydol eu hastudiaethau.
Mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â’r wybodaeth i fyfyrwyr am CDP.
Beth ddylai myfyrwyr ei wneud?
Mae un ‘templed’ Portffolio CDP ar gael yn AberLearn Blackboard ar gyfer pob blwyddyn o astudiaethau israddedig. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr mewn adrannau cyfranogol lawrlwytho’r Portffolio CDP perthnasol a’i ddefnyddio yn ôl eu dewisiadau unigol.
Yn anochel, bydd rhai myfyrwyr yn ymgymryd â’r broses ôl-ystyriol yn llawnach na’i gilydd. Mae’n bwysig cofio mai adnodd i fyfyrwyr yw hwn yn bennaf, ac oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio fel rhan o asesiad mewn modiwl sydd â chredydau, nid yw’n briodol bod yn rhy ragnodol ynglŷn â’r modd y’i defnyddir.
Mae pob Portffolio CDP yn cynnwys gwybodaeth am sut i roi cychwyn arni ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau i hwyluso datblygiad academaidd, gyrfa a phersonol y myfyriwr.
Gall myfyrwyr sefydlu gosodiad caniatâd i’w tiwtor personol weld eu Portffolio CDP ar-lein. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i helpu i baratoi’r ddwy ochr ar gyfer cyfarfodydd am gynnydd y myfyriwr.
Beth yw’r pwyntiau allweddol wrth gynghori israddedigion am CPD?
Bydd angen i fyfyrwyr wybod am fanteision y broses CDP i’w datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol. Gall eich adran ddefnyddio gweithdai a darlithoedd wedi’u teilwra ar y thema hon drwy pdpportfolio@aber.ac.uk neu eich ymgynghorydd gyrfaoedd adrannol.
Bydd angen cyfeirio’r holl fyfyrwyr at y wefan gwybodaeth CDP i fyfyrwyr i gael gwybodaeth lawn a’r Canllaw Cam wrth Gam i CDP (gweler yr adran dolenni isod).
Efallai y bydd angen atgoffa myfyrwyr os hoffech iddynt ddod â chopïau caled o’u cofnodion i diwtorialau/cyfarfodydd.
Beth ddylid ei wneud os ceir trafferthion technegol?
Rhowch wybod i Blackboard a Chymorth E-ddysgu ar unwaith os ceir unrhyw broblemau technegol â’r system CDP – bbbstaff@aber.ac.uk ac anogwch eich myfyrwyr i wneud yr un peth. Bydd gweinyddwr y system yn ymateb i’r rhain cyn gynted â phosibl.
Felly beth yw fy swyddogaeth i yn hyn i gyd?
Gweithgaredd dan arweiniad y myfyriwr yw CDP ac yn ôl Datganiad a Strategaeth Cyflogadwyedd y Brifysgol, mae’n amcan strategol bod CDP yn cael ei ddefnyddio’n llawn i annog myfyrwyr i ôl-ystyried a monitro eu dysgu a’u datblygiad.
Mae profiad yn dangos oni bai bod CDP yn cael ei wreiddio mewn rhaglen academaidd gyda chredyd yn cael ei roi am ei gyflawni, neu y dangosir fod staff academaidd yn ei gefnogi ac yn rhoi gwerth arno, bydd myfyrwyr yn defnyddio CDP fel y gwelant hwy’n briodol.
Dylid hysbysu myfyrwyr israddedig am CDP wrth iddynt gyrraedd Aberystwyth ac mae cymorth ar gael drwy’r Gwasanaeth Ymgynghori Gyrfaoedd ar gyfer sefydlu a digwyddiadau penodol eraill yn gysylltiedig â CDP. Gellir cael cymorth drwy pdpportfolio@aber.ac.uk a’ch Ymgynghorydd Gyrfaoedd adrannol.
Gall tiwtor personol helpu’r rheini y mae’n eu tiwtora i wneud y defnydd gorau o’u CDP mewn sawl ffordd er enghraifft:
- Esbonio manteision CDP i fyfyrwyr
- Cynnig trafod adrannau o’r Portffolio CDP mewn tiwtorialau
- Helpu myfyrwyr i arfer â’r broses o ôl-ystyried drwy gynnwys ymarferion ôl-ystyried yn asesiad y modiwlau a thrwy gydol y rhaglenni
- Helpu myfyrwyr i ôl-ystyried yn effeithiol wrth gwblhau templedi CDP
- Helpu myfyrwyr i gynllunio’n effeithiol ac i osod amcanion
- Cyfeirio myfyrwyr at weithgareddau priodol, academaidd ac anacademaidd, sy’n gallu eu helpu i ddatblygu sgiliau
- Cynorthwyo â datblygu dulliau effeithiol o astudio
- Awgrymu bod myfyrwyr yn gwahodd eu tiwtor personol i adolygu rhannau priodol o’u Portffolio CDP. Gellir gwneud hyn pan fydd y myfyriwr yn sefydlu caniatâd rhannu. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â pdpportfolio@aber.ac.uk
Gwybodaeth bellach a dolenni defnyddiol
I gael rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr: www.aber.ac.uk/careers/pdp
I gael rhagor o wybodaeth i staff: www.aber.ac.uk/careers/pdpfaqstaff
Gweler hefyd y dudalen gwe Hyfforddiant i Diwtoriaid Personol yn y pecyn adnoddau hwn
PDP - Times Higher Education: Helping Students Prepare
I gael rhagor o wybodaeth am CDP ebostiwch pdpportfolio@aber.ac.uk
Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ynglŷn â’r modd y gellid gwella’r pecyn adnoddau hwn ebostiwch ss-toolkit@aber.ac.uk