Siart Gweithredu Cyfeirio - Crynodeb
Anhawster Academaidd
| Gweithred y Tiwtor Personol | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Sefydlu bod y mater yn berthnasol i’ch cyfrifoldeb chi Os yw y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb chi, cyfeirio at gymorth arbenigol Os yw o fewn eich cyfrifoldeb chi, cynnig awgrymiadau priodol |
Y myfyriwr “mewn perygl” academaidd - Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (cyflymder y cyfeiriad yn hanfodol yma) Problemau ynglŷn â rheoli amser, sgiliau trefnu cyffredinol, hiraeth – ymunwch â Chynllun Mentora Ffordd Hyn i gael cyngor anffurfiol un-i-un gan gyfoedion fforddhyn@aber.ac.uk est 1890 |
Anhawster Personol/Emosiynol
| Gweithred y Tiwtor Personol | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Cynnig cymorth drwy gyfeirio Cyfeirio drwy gytundeb â’r myfyriwr |
Canolfan Iechyd Myfyrwyr est 2087 neu ebost nurse@aber.ac.uk Gwasanaeth Cwnsela Urdd y Myfyrwyr est 1740 neu ebost union.welfare@aber.ac.uk Cyngor gan Urdd y Myfyrwyr est 1740 Swyddog Cymorth Urdd y Myfyrwyr est 1741 neu ebost union.support@aber.ac.uk Problemau ynglŷn â hyder, sgiliau trefnu cyffredinol, hiraeth, unigrwydd – ymunwch â Chynllun Mentora Ffordd Hyn i gael cyngor anffurfiol un-i-un gan gyfoedion fforddhyn@aber.ac.uk est 1890 |
Materion Gyrfa neu Gyflogadwyedd
| Gweithred y Tiwtor Personol | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Awgrymu bod y myfyriwr yn ceisio cyngor arbenigol Cyfeirio drwy gytundeb â’r myfyriwr |
Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd ar gyfer cymorth gyda’r holl faterion datblygu gyrfa gan gynnwys cyngor ac arweiniad, dewisiadau gyrfa (rhan amser, gwyliau, lleoliadau gwaith ac uwchraddedig), swyddi gwag, goblygiadau gyrfa yn sgil dewisiadau modiwl a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, CDP a dewisiadau astudio pellach. Cysylltwch â gyrfaoedd est 2378 neu ebost careers@aber.ac.uk Cyngor ar ddechrau busnes a chyfleoedd menter a chyflogadwyedd eraill Y Gwasanaethau Masnachol a Masnacheiddio |
Anhawster Ariannol
| Personal Tutor action | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Awgrymu bod y myfyriwr yn ceisio cymorth Cyfeirio drwy gytundeb â’r myfyriw |
Ymgynghorydd Cymorth Cyllid Myfyrwyr est 1761 neu ebost elr@aber.ac.uk Am gyngor ar faterion talu ffioedd dysgu/llety cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr est 1583 neu fees@aber.ac.uk |
Materion yn ymwneud â Theithebau Myfyrwyr Rhyngwladol
| Gweithred y Tiwtor Personol | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Awgrymu bod y myfyriwr yn ceisio cael cymorth Cyfeirio’r myfyriwr gyda’i ganiatâd |
Am faterion sy’n ymwneud â Theitheb Myfyriwr, cysylltwch â Chymorth i Fyfyrwyr: y Cynghorwr Myfyrwyr Rhyngwladol njj@aber.ac.uk Myfyrwyr sydd am gael cyngor ar deithebau gweithio er mwyn cael cyflogaeth yn ystod eu hastudiaethau neu wedyn, cyfeiriwch i’r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd est 2378 |
Tynnu’n ôl – dros dro neu am byth
| Gweithred y Tiwtor Personol | Enghreifftiau o gyfeiriadau posibl |
|---|---|
|
Gwrando Sicrhau bod y mater yn dod o fewn eich cylch gorchwyl chi Os yw y tu allan i’ch cylch gorchwyl, cyfeiriwch y myfyriwr i’r cymorth arbenigol priodol Os yw o fewn eich cylch gorchwyl, gwnewch awgrymiadau fel y bo’n briodol |
Efallai fod y myfyriwr yn pryderu am ei gynnydd academaidd, neu deimlo nad yw’r cwrs yn addas. Yr adran yw’r lle gorau am gyngor ar faterion o’r fath. Os oes materion nad ydynt yn gysylltiedig â materion academaidd, megis cyllid neu salwch, cyfeiriwch yn unol â’r categorïau ‘Anhawster Ariannol’ neu ‘Anhawster Personol / Emosiynol’ Os yw’r myfyriwr yn siŵr ei fod yn gwneud y penderfyniad iawn, cyfeiriwch at Gymorth i Fyfyrwyr est 1761 am ffurflen Tynnu’n Ôl. Rhaid i honno gael ei llofnodi gan Bennaeth yr Adran, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymorth i Fyfyrwyr (neu rywun a enwebwyd ganddo), a Deon y Gyfadran. Os yw’r myfyriwr yn dal i deimlo yr hoffai drafod y mater ymhellach, cyfeiriwch at Gymorth i Fyfyrwyr est 1761 am apwyntiad. |